
Sgwrs gyda Sophie Buchaillard
Sgwrs gyda’r awdur, addysgwr ac ymgyrchydd, Sophie Buchaillard.
Yn wreiddiol o Baris, mae Sophie Buchaillard yn awdur, yn addysgwr, yn ymgyrchydd, ac yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Mae ei straeon byrion, ei barddoniaeth a’i thraethodau wedi ymddangos mewn amrywiaeth eang o gylchgronau llenyddol a phapurau newydd ac yn archwilio themâu hunaniaeth a chysylltiad mewn ymateb i fudo, iechyd meddwl a thrawma. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf, This is Not Who We Are (Seren Books), restr fer Llyfr y Flwyddyn 2023, ac ymddangosodd fel un o ddeg nofel orau Wales Arts Review yn 2022. Assimilation (Honno, 2024) yw ei hail nofel. Mae Sophie yn byw ym Mhenarth.