
Sgyrsiau Creadigol: Sgwennu ar gyfer Llesiant
Siaradwyr: Mel Perry a Kerry Steed
Ymunwch â ni ar gyfer ein rhaglen newydd o Sgyrsiau Creadigol, cyfres o chwe digwyddiad byr i ysbrydoli awduron Cymru. Bydd y rhaglen hon yn cynnig cyfleoedd agored a hygyrch i ddysgu rhagor am ddefnyddio llenyddiaeth mewn gweithdai cyfranogi. Maent hefyd yn gyfle i gwrdd ag awduron o’r un anian, cyfnewid syniadau, rhannu arfer da, adnoddau a chysylltiadau, a mwynhau sgyrsiau creadigol. Mae’r rhaglen hon wedi ei datblygu o ganlyniad i sesiynau adborth ac ymgynghori a gynhaliwyd ag awduron ledled Cymru yn 2021.
Mae pob sesiwn 90 munud o hyd yn rhad ac am ddim. Ein nod gyda phob un o’r Sgyrsiau Creadigol yw adeiladu’r sgiliau a chynyddu’r hyder sydd ei angen i redeg gweithdai cyfranogi sy’n defnyddio gweithgareddau llenyddol i wneud newid cadarnhaol i lesiant cyfranogwyr. Mae’r rhaglen hefyd â’r nod o gyfrannu at adeiladu rhwydwaith gefnogol o awduron yng Nghymru sydd un ai’n gweithio yn y gymuned yn barod neu sydd â diddordeb yn y maes hwn.
Mae’r sesiwn yma wedi ei anelu at awduron sydd yn gweithio gyda chymunedau i wella canlyniadau iechyd a llesiant, neu’r rheiny sydd â diddordeb darganfod rhagor am y gwaith yma. Gall sgwennu ar gyfer llesiant gynnwys defnyddio barddoniaeth i gynyddu hyder, defnyddio llenyddiaeth i ddisgrifio a deall teimladau o unigrwydd neu ynysiad, neu ddefnyddio technegau ysgrifennu gyda phobl sy’n dioddef o gyflyrau iechyd penodol.
Mae Mel Perry a Kerry Steed, dau ddarparwr gweithdai profiadol, yn eich gwahodd yn wresog i’r sesiwn 90 munud hwn lle byddwn yn dysgu, rhannu, a meithrin ein hymarfer gyda’n gilydd. Bydd amser i adlewyrchu ar ein profiadau, sgiliau, pwrpas, a’n gweledigaeth bersonol; a chyfle i archwilio ymarferoldeb, perygl, a phrotocol y gwaith. Byddwn yn ystyried y cwestiwn, sut gallwn sicrhau ein bod yn derbyn cefnogaeth yn ein gwaith? Bydd y sesiwn yn cynnig cyfle i ofyn cwestiynau ac i ymgysylltu ag awduron tebyg mewn gofod Zoom cefnogol. Cofiwch ddod ag offer sgwennu gyda chi.
Bydd dim mwy nag 20 o gyfranogwyr yn gallu mynychu pob cwrs blasu; bydd y cyrsiau am ddim ac yn cael eu cyflwyno dros blatfform fideo Zoom.
Bydd y digwyddiad hwn drwy gyfrwng y Saesneg a bydd isdeitlau byw hefyd. Byddwn yn anfon dolen i chi i’r sesiwn Zoom yn yr ebost cadarnhau a 24 awr cyn y digwyddiad.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!
Am unrhyw fanylion pellach am y digwyddiad, cysylltwch â louise@literaturewales.org
Trefnir y digwyddiad hwn gan Llenyddiaeth Cymru