Siaradwyr: Kittie Belltree, gyda chefnogaeth gan Sara Beer

Ymunwch â ni ar gyfer ein rhaglen newydd o Sgyrsiau Creadigol, cyfres o chwe digwyddiad byr i ysbrydoli awduron Cymru. Bydd y rhaglen hon yn cynnig cyfleoedd agored a hygyrch i ddysgu rhagor am ddefnyddio llenyddiaeth mewn gweithdai cyfranogi. Maent hefyd yn gyfle i gwrdd ag awduron o’r un anian, cyfnewid syniadau, rhannu arfer da, adnoddau a chysylltiadau, a mwynhau sgyrsiau creadigol. Mae’r rhaglen hon wedi ei datblygu o ganlyniad i sesiynau adborth ac ymgynghori a gynhaliwyd ag awduron ledled Cymru yn 2021.

Mae pob sesiwn 90 munud o hyd yn rhad ac am ddim. Ein nod gyda phob un o’r Sgyrsiau Creadigol yw adeiladu’r sgiliau a chynyddu’r hyder sydd ei angen i redeg gweithdai cyfranogi sy’n defnyddio gweithgareddau llenyddol i wneud newid cadarnhaol i lesiant cyfranogwyr. Mae’r rhaglen hefyd â’r nod o gyfrannu at adeiladu rhwydwaith gefnogol o awduron yng Nghymru sydd un ai’n gweithio yn y gymuned yn barod neu sydd â diddordeb yn y maes hwn.

Mae’r sesiwn yma ar gyfer unrhyw un sydd yn awyddus i ddysgu sut i wneud gweithdai a gofodau rhithiol mor gynhwysol a chroesawgar a phosib, gyda chanolbwynt penodol ar gyfranogwyr niwroamrywiol. Bydd y sesiwn yn amlinellu’r egwyddorion craidd sydd wedi eu hargymell gan Goleg King’s Llundain fel sylfaen arfer dda ac yn trafod sut i baratoi ar gyfer gweithdai ar-lein hygyrch, gan gynnwys: rhannu adnoddau o flaen llaw, gwirio gofynion cymorth neu hygyrchedd a darparu capsiynau. Yn arwain y sesiwn y bydd y bardd, awdur, tiwtor, a’r casglwr, Kittie Belltree, gyda chefnogaeth gan Sara Beer o Gelfyddydau Anabledd Cymru. 

Bydd dim mwy nag 20 o gyfranogwyr yn gallu mynychu pob cwrs blasu; bydd y cyrsiau am ddim ac yn cael eu cyflwyno dros blatfform fideo Zoom.

Bydd y digwyddiad hwn drwy gyfrwng y Saesneg a bydd isdeitlau byw hefyd. Byddwn yn anfon dolen i chi i’r sesiwn Zoom yn yr ebost cadarnhau a 24 awr cyn y digwyddiad.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!