Dewch yn llu i Stomp Fawreddog Y Plu!

Mae’r beirdd yn barod, mae’r cerddi’n ffraeth a heb os, bydd hon yn noson heb ei hail.

Yn arwain y noson ac yn cadw trefn ar y beirdd bonigrybwyll mae Mr Gwyn Eiddior, sy’n wyneb cyfarwydd ar raglen Hen Dŷ Newydd S4C a brodor o Lanystumdwy wrth gwrs.

Ac yn barod i’n diddannu gyda’u cerddi o bob lliw a llun mae:

Llio Maddocks
Myrddin ap Dafydd
Pod
Sian Northey
Iestyn Tyne
Twm Morys a Gwyneth Glyn
Iwan Rhys
Iestyn Tyne a
Casia Wiliam.

Cynhelir y Stomp yng ngardd Y Plu, Llanystumdwy. Mae digon o le i hyd at 60 eistedd yn yr ardd, felly os ydych am sicrhau sedd dewch yn gynnar, neu dewch a chadair haul efo chi! Os fydd hi’n bwrw, caiff y Stomp ei chynnal yn Y Neuadd Bentref Llanystumdwy, a bydd Y Plu yn codi bar yno.

Cofiwch ddod â newid mân i brynu raffl.

Caiff Y Stomp ei threfnu gan Bwyllgor Llên Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd a Phwyllgor Codi Arian Cricieth fel rhan o ddigwyddiadau Mis y Cyhoeddi. Bydd holl elw’r noson yn mynd at Gronfa Apêl Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd Cricieth.

£10 yw pris tocyn. Ffi gan Tocyn.Cymru yw’r £0.33 ychwanegol.