Dilynwch synau allweddi ym Marchnad Caerdydd ac fe welwch Adam gyda’i deipiadur yn Stondin 30 a fydd yn ysgrifennu stori greadigol ar eich cyfer.

Rhowch dri gair ar hap iddo a’r enw am gymeriad a bydd yn teipio’r stori i chi wrth i chi aros. Mae pob stori tua 400 gair ac yn cymryd tua 5 munud.

Talwch yr hyn rydych chi’n deimlo sy’n addas.

Addas ar gyfer plant, pobl ifanc & oedolion.

Ar agor Dydd Llun – Sadwrn, 12pm – 5pm