Mi fydd Mari George yn teithio o Gaerdydd i Gaernarfon dros gyfnod o dridiau ym mis Hydref ac yn ymweld a’r siopau canlynol, er mwyn dathlu ei llwyddiant o gipio’r teitl Llyfr y Flwyddyn 2024 gyda’i nofel ffuglen Sut i Ddofi Corryn:

Dydd Iau, 17 Hydref
📍Caban, Caerdydd – 11am
📍Siop y Pentan, Caerfyrddin – 2:30pm
📍Siop Awen Teifi, Aberteifi, gyda’r bardd Ceri Wyn Jones yn cadeirio’r sgwrs – 7pm

Dydd Gwener, 18 Hydref
📍Siop Inc, Aberystwyth – 11am
📍Siop Lyfrau’r Seneddd-dy, Machynlleth – 2:30pm
📍Canolfan Gantref (mewn partneriaeth gyda Siop Awen Meirion), gyda Bethan Gwanas yn cadeirio’r sgwrs – 7pm

Dydd Sadwrn, 19 Hydref
📍Siop Siwan, Tŷ Pawb, Wrecsam – 11am
📍Siop Elfair, Rhuthun – 2:30pm
📍Palas Print, Caernarfon, gyda Rhys Iorwrth yn cadeirio’r sgwrs – 7pm

Dewch yn llu am sgwrs a chyfle i brynnu’r nofel arbennig wedi ei arwyddo gan Mari!