Taith Lenyddol a Cherddorol o amgylch Pen Llŷn

Dydd Sul 24 Mawrth 2019

2.00 – 4.00 pm

Digwyddiad am ddim yn arbennig i bobl sydd wedi ymddeol.

Ymunwch â ni ar daith fws o amgylch pendraw Llŷn yng nghwmni’r Prifardd Myrddin ap Dafydd a’i straeon. Bydd y daith yn eich tywys o Borth y Swnt, Aberdaron i Uwchmynydd ac yna i Blas yn Rhiw. Yna bydd cyfle i fwynhau cyflwyniad cerddorol gan y gantores a’r delynores o Lŷn, Gwenan Gibbard. Bydd caffi Plas yn Rhiw ar agor os hoffech baned ar y diwedd.

Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gael ar fws O Ddrws i Ddrws. Bydd y gwasanaeth yn eich casglu o Borth y Swnt, Aberdaron.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: 01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org

Trefnir y digwyddiad hwn gan Llenyddiaeth Cymru ar y cyd â Be ‘Nawn Ni Heddiw ac O Ddrws i Ddrws, gyda chefnogaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri