
Wal Aberystwyth
Adverse Camber yn cyflwyno Gwilym Morus-Baird gyda chyfeiliant Ben MacCoed
The Aberystwyth Wall
Cewch eich cludo gan mlynedd i’r dyfodol gyda’r stori hyfryd hon o gysylltiad dynol a chymuned yn dilyn argyfwng hinsawdd, yn seiliedig ar chwedl Cantre’r Gwaelod.
Mae cynnydd yn lefel y môr wedi gorfodi pobl Aberystwyth i adeiladu amddiffyniad môr enfawr ac ar un noson neilltuol mae storm anferth sy’n bygwth diogelwch y dref.
Ymunwch â ni am noswaith gyfoethog a diddorol o chwedleua, gyda cherddoriaeth fyw yn amrywio o faled werin Gymraeg i gylchu-byw trydan i gitâr cywrain fydd yn eich gadael gyda’ch calon yn llawn gobaith.
Stori Saesneg gyda chaneuon yn Gymraeg.
Adborth y gynulleidfa i 4 Stori i Achub y Byd gan Gwilym Morus Baird
“Cynhyrchiad bendigedig gyda sain cyfoethog”.
“Diolch i chi am y stori hon a’r harddwch o’u mewn. Diolch i chi am roi gobaith i ni.”
“Hiraethus a llawn awyrgylch.”
yn addas ar gyfer 12+