Dewch ynghyd ac ysgrifennwch nawr! Dathliad o gerddoriaeth a barddoniaeth, gyda’r bardd Simon Mole a’r cerddor Gecko ar gyfer plant 6+ oed a’u teuluoedd

Digwyddiad newydd sbon, THE POETRY PICNIC! Byddwn yn chwarae gemau hwyliog (ac eithaf gwirion) i ddod i adnabod ein gilydd ac adeiladu eich hyder a’ch sgil gyda geiriau, yna yn eich helpu chi i ysgrifennu cerdd gyda’r pŵer i anfon eich blanced bicnic tua’r awyr. A byddwn yn chwarae rhai caneuon ein hunain gan gymysgu steiliau’r Beatles a’r Beastie Boys.

Sylwch, mae’r digwyddiad hwn yn un Dewch â’ch Bisgedi Eich Hun.