Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2019
Mae Gŵyl Llenyddiaeth Plant Caerdydd yn dychwelyd am ei 7fed flwyddyn!
Mae’r ŵyl yn rhedeg ar draws dau benwythnos gyda digwyddiadau ysgol am ddim yn ystod canol yr wythnos a gweithdai ysgrifennu oedolion gyda’r nos.
Bydd awduron a darlunwyr clodfawr unwaith eto yn dod â chas o gymeriadau lliwgar a chwedlau anhygoel i ysbrydoli a diddanu rhai sy’n hoff o lyfrau ym mhobman; o’r ifanc i’r ifanc yn galon! Bydd yr ŵyl arobryn yn cynnal dros 50 o ddigwyddiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg mewn lleoliadau eiconig ar draws canol y ddinas, gan gynnwys Castell Caerdydd, Neuadd y Ddinas a’r Llyfrgell Ganolog. Mae’r wyl yn parhau i greu darllenwyr gydol oes tra’n eu hannog am ddarllen. Mae’r digwyddiadau’n cynnwys gweithdai ysgrifennu, darlleniadau llyfrau, gweithgareddau crefft, cwisiau, gemau ac ymddangosiad achlysurol cymeriad neu ddau!