Bydd Julie Brominicks yn cyflwyno ei llyfr The Edge of Wales.

Yn ystod blwyddyn cerddodd Julie Brominicks o amgylch cyrion Cymru, ar ôl gadael ei swydd ym myd addysg am gynaliadwyedd yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth. Fel mewnfudwr Saesneg a dysgwr Cymraeg sydd â chysylltiad hir â’r wlad, roedd ganddi ddiddordeb yn yr hyn oedd Cymru’n ei olygu, a sut oedd hi yn ffitio, neu ddim yn ffitio, i mewn iddi. Y canlyniad yw teithlyfr amgen hynod ddiddorol, sy’n uno topograffi, hanes, amgylcheddaeth ac arsylwi byd natur, i gynhyrchu ‘golwg hir’ o Gymru, gan ddarganfod gwreiddiau materion heddiw yn y gorffennol, weithiau’r gorffennol pell.