
Categori /
Digwyddiad
The Edge of Cymru – Arwyddo Llyfrau
Bydd Julie yn sgwrsio am ei llyfr The Edge of Wales ac yn arwyddo copiau.
Yn ystod blwyddyn cerddodd Julie Brominicks o amgylch cyrion Cymru, ar ôl gadael ei
swydd ym myd addysg am gynaliadwyedd yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ym
Machynlleth. Fel mewnfudwr Saesneg a dysgwr Cymraeg sydd â chysylltiad hir â’r wlad,
roedd ganddi ddiddordeb yn yr hyn oedd Cymru’n ei olygu, a sut oedd hi yn ffitio, neu
ddim yn ffitio, i mewn iddi. Y canlyniad yw teithlyfr amgen hynod ddiddorol, sy’n uno
topograffi, hanes, amgylcheddaeth ac arsylwi byd natur, i gynhyrchu ‘golwg hir’ o Gymru,
gan ddarganfod gwreiddiau materion heddiw yn y gorffennol, weithiau’r gorffennol pell.