Ysbrydolwyd The Mare’s Tale gan gyfres o ddarluniau gan Clive Hicks-Jenkins sy’n seiliedig ar thema’r Fari Lwyd, un o draddodiadau hynaf y gaeaf yng Nghymru sydd â’i wreiddiau yn y credoau paganaidd. Sgoriwyd y gwaith ar gyfer grymoedd offernnol Soldier’s Tale Stravinksy, gyda fiola wedi’i ychwanegu. Mark Bowden a gyfansoddodd y gerddoriaeth gyda Damian Walford Davies yn gyfrifol am y geiriau ac Ensemble Berkeley yn ei pherfformio.