Cyhoeddir ‘The Oba’s Head’ yn ‘Cast a Long Shadow’, casgliad newydd o straeon ffuglen trosedd gan awduron benywaidd Cymreig. Wedi’i hysgrifennu gan Claire Boot, mae’r stori wedi’i lleoli yng Nghaerdydd Edwardaidd ac wedi’i hysbrydoli gan Efydd Benin. Ymunwch â Claire a’r cerddor Blank Face am ddarlleniad ac yna trafodaeth am etifeddiaethau trefedigaethol yn Nigeria a’r DU.