
‘The President’s Kill List’: Luca Trenta mewn sgwrs gyda Elaine Canning
O Fidel Castro i Qassem Soleimani, mae llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi bod yn rhan o lu o lofruddiaethau ac ymgeision i gyflawni llofruddiaeth yn erbyn arweinwyr a swyddogion tramor. Mae The President’s Kill List yn datgelu sut mae llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi dibynnu ar amrywiaeth o ddulliau, o ddefnyddio gwenwyn i ddosbarthu reifflau cêl-saethwyr, ac o gyflogi lladdwyr proffesiynol i greu’r amgylchiadau i actorion lleol gyflawni’r weithred eu hunain. Mae’n dangos nid yn unig sut penderfynodd llunwyr polisi ar lofruddiaeth, ond hefyd lefel rheolaeth yr Arlywydd ar y penderfyniadau hyn. Gan olrhain hanes ymagwedd llywodraeth yr Unol Daleithiau at lofruddiaeth, mae’r llyfr yn dadansoddi datblygiad polisïau ar lofruddiaeth ac, am y tro cyntaf, mae’n datgelu sut gwnaeth gweinyddiaethau olynol – drwy gyfiawnhad preifat a chyhoeddus – sicrhau bod llofruddiaeth yn parhau i fod ar gael fel ffordd o weithredu.
Am y awdur…
Mae Dr Luca Trenta’n Athro Cysylltiol mewn Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n arbenigwr ar ddeallusrwydd a gweithrediadau cudd. Fe yw awdur ‘The President’s Kill List’: Assassination in US Foreign Policy since 1945 (Edinburgh University Press 2024). Mae wedi ysgrifennu sawl erthygl yn trafod rôl llywodraeth yr Unol Daleithiau mewn gweithrediadau cudd a llofruddiaethau. Fe hefyd yw cyd-olygydd Killing in the name of the state: state-sponsored assassinations in international Politics (Lynne Rienner 2025). Mae wedi cyfrannu’n aml at y cyfryngau, gan gynnwys The Conversation, BBC News, a Deutsche Welle.
*Sylwch: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg