Ar Ddydd Llun y 31ain o Hydref, bydd Theatr y Sherman yn agor ei drysau i holl ysbrydion, gwrachod ac ysbrydion bwganllyd eraill Caerdydd i gymryd rhan mewn diwrnod arswydus o ysgrifennu dramâu. Wedi’i hwyluso gan ddramodwyr proffesiynol sydd â chariad at bopeth brawychus, a’n Gwneuthurwyr Theatr y Sherman, bydd y gweithdy hwn yn ofod creadigol diogel a chynhwysol i bob person ifanc.

Cynigir y gweithdy AM DDIM i bobl ifanc 15-18 oed. Fodd bynnag, mae lleoedd yn gyfyngedig ac ar sail y cyntaf i’r felin. Felly, cydiwch yn eich crochan a’ch ysgub ac ymunwch â ni am ddiwrnod o ysgrifennu creadigol iasol.

Bydd y gweithdy hwn yn rhedeg o 10am – 4pm yn Theatr y Sherman. I gofrestru eich diddordeb neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Tim ac Isaac ar itp@shermantheatre.co.uk