
Categori /
Lansiad Llyfr
Then the War gan Carl Phillips: Lansiad Llyfr Carcanet
Ymunwch â ni i ddathlu lansiad ‘Then the War and Selected Poems 2007-2020’ gan Carl Phillips. Yn cyflwyno’r darlleniad bydd yr awdur a’r golygydd Brandon Taylor, yn ymuno â Carl i drafod y llyfr newydd. Bydd y digwyddiad yn cynnwys darlleniadau a thrafodaeth, a bydd aelodau’r gynulleidfa yn cael cyfle i ofyn eu cwestiynau eu hunain. Byddwn yn dangos y testun yn ystod darlleniadau er mwyn i chi allu darllen ymlaen.
Bydd cofrestru ar gyfer y digwyddiad arlein hwn yn costio £2, y gellir ei adbrynu yn ddiweddarach yn erbyn cost y llyfr. Bydd pawb sy’n mynychu yn derbyn y cod disgownt a gwybodaeth am sut i brynu’r llyfr yn ystod ac ar ôl y digwyddiad.