Teithio’r byd, ei led a’i hyd gyda Bardd Cenedlathol Cymru
Fe fu Ifor ap Glyn yn Sweden, Gwlad Pwyl, Lithwania, Tsieina a Chamerŵn dros y flwyddyn ddiwethaf yn rhinwedd ei swydd fel Bardd Cenedlaethol Cymru. Bu’n cyflwyno cerddi yn Gymraeg, a sôn am Gymru ledled y byd fel llysgennad diwylliannol, ond hefyd yn dysgu am rôl llenyddiaeth yn y gwledydd hynny. Dewch i glywed ei hanesion wrth iddo rannu rhai o’i brofiadau yn y Llannerch. Rheolir menter Bardd Cenedlaethol Cymru gan Llenyddiaeth Cymru. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru
Noddir Llwyfan y Llannerch gan Llywodraeth Cymru