‘Truth Like Water’ gan Carys Shannon

Y nofel gyntaf gan awdur arobryn straeon byrion.

Mewn pentref bach ar lan aber ar arfordir Cymru, wrth i Catrin alaru flwyddyn yn union ar ôl marwolaeth ei mam drwy foddi, mae merch yn ei harddegau yn diflannu ar yr un traethellau lleidiog. A hithau mewn dychryn rhag ofn bod yr un peth wedi digwydd eto ac wedi’i sbarduno gan alar sy’n friw o hyd, mae Catrin yn daer am ddod o hyd i Emily.

Wrth iddi chwilio, daw cyfrinachau o orffennol a phresennol y pentref i’r arwyneb, gan ddatgelu mwy na’r ferch sydd ar goll.

Dyma stori am fenywod colledig – rhai mae modd dod o hyd iddynt eto a rhai sydd ar goll am byth.

Y nofel gyntaf gan awdur arobryn straeon byrion.

Enillodd ‘Truth Like Water’ grant datblygu Llenyddiaeth Cymru, ac mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Nofel Mslexia a’r Bath Novel Award a rhestr fer Gwobr Nofel Caledonia. Yn 2020 enillodd Wobr Ysgrifennu Gŵyl Awduron Jericho.

Am y Awdur…
Mae Carys Shannon yn hanu o ogledd Gŵyr, Abertawe yn wreiddiol, ac mae hi bellach yn byw ym mynyddoedd y Pyrenees yn Sbaen gyda’i phartner a’i chath achub. Mae Honno Press, Parthian Books a Mslexia Magazine wedi cyhoeddi straeon byrion ganddi, yn ogystal â’u darlledu ar BBC Radio 4. Pan nad yw’n ysgrifennu, mae Carys hapusaf yn mwynhau amser hamddenol ym myd natur fawr.

Mewn partneriaeth â Parthian a Siop Lyfrau Cover to Cover

*Sylwch: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg