ARLEIN YN UNIG. Am ddim i Aelodau RSL a Digital Events Passholders. Gall aelodau hefyd archebu un tocyn arlein ar ddisgownt i westai am £3.

Gall y rhai nad ydynt yn Aelodau archebu tocynnau cyhoeddus drwy’r Llyfrgell Brydeinig.

Cyn digwyddiad arbennig ar fywyd ac amseroedd James ym mhrif ŵyl lenyddol Trinidad a Tobago, yr NGC Bocas Lit Fest, ymunwch â ni i ddathlu gwaith ac etifeddiaeth yr awdur, hanesydd a sosialydd Trinidadaidd arloesol, C.L.R. James.

Yng nghwmni’r awdur o Drinidad Ayanna Lloyd Banwo, cyhoeddwr James Margaret Busby, gwraig James a’i chydweithiwr Selma James, a Churadur Casgliadau Caribïaidd y Llyfrgell Brydeinig Nicole-Rachelle Moore, dewch ar daith trwy fywyd ysgrifennu James gan ddefnyddio tri o’i weithiau mwyaf enwog fel arwyddbyst ar hyd y ffordd: Minty Alley, Mariners, Renegades and Castaways a The Black Jacobins.

Mewn partneriaeth â NGC Bocas Lit Fest, Curtis Brown Heritage a’r Llyfrgell Brydeinig.