Bydd gŵyl ffilmiau Affricanaidd flynyddol Cymru, Watch-Africa Cymru, yn digwydd ar-lein yn 2021, gan ddod ag Affrica a Chymru at ei gilydd i ddathlu sinema Affricanaidd.

Sefydlwyd yr ŵyl Watch-Africa Cymru wyth mlynedd yn ôl yn ne Cymru, a hon yw unig ŵyl ffilmiau Affricanaidd Cymru. Mae’r 9fed rhifyn eleni yn symud ar-lein ac yn digwydd rhwng 19 a 28 Chwefror 2021.

Gyda chefnogaeth Canolfan Celfyddydau Chapter, Ffilm Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae rhaglen gyffrous o’r enw ‘Dod ag Affrica i Gymru’, wedi cael ei churadu. Bydd yr ŵyl yn sgrinio amrywiaeth o 10 o ffilmiau gwych, a sesiwn holi ac ateb fyw gyda chyfarwyddwyr, cast ac arbenigwyr.

Ynghyd â’r rhaglen sinema hon, bydd yr ŵyl yn cynnig cyfres o weithdai diddorol hefyd, sydd wedi’u trefnu’n arbennig i gefnogi’r rhaglen sinema (gan gynnwys gweithdy ar Lên Gwerin Affricanaidd!).

Bydd yr ŵyl hon yn dathlu cyfnewidfeydd diwylliannol dilys drwy gydweithrediadau sinematig traws-genedlaethol. I agor yr ŵyl, mae’n bleser gan Watch-Cymru Africa groesawu Florence Ayisi, gwneuthurwr ffilmiau Cymru-Affrica. Bydd yr ŵyl yn dod i ben gyda sgriniad ‘Buganda Royal Music Revival’ a thrafodaeth gyda gwneuthurwyr ffilmiau a chynrychiolwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Dilynwch Watch-Africa Cymru ar Facebook, Twitter ac Instagram i ymuno â’r drafodaeth ar-lein ac i gael cyfle i ennill rhywfaint o wobrau arbennig.