
‘Women, Conflicts and Landscapes’: Jane Fraser a Kathleen B. Jones yn sgwrsio ag Elaine Canning
Ymunwch â ni i ddathlu nofelau cyntaf awduron arobryn Janes Fraser (Cymru) a Kathleen B. Jones (UDA). Mewn sgwrs ag Elaine Canning, bydd Jane a Kathleen yn trafod celf ysgrifennu ffuglen hanesyddol, ysbrydoliaeth a dylanwadau, yn ogystal â thawelu menywod a’u gwneud yn anweladwy, dyletswydd a dyhead o fewn tirlun diwylliannol.
Bywgraffiadau
Mae Jane Fraser yn byw, yn gweithio ac yn ysgrifennu ffuglen mewn tŷ sy’n wynebu’r môr ym mhentref Llangynydd, ym mhenrhyn Gŵyr, de Cymru.
Hi yw awdur dau gasgliad o ffuglen fer, The South Westerlies (2019) a Connective Tissue (2022), a chyhoeddwyd y ddau gan SALT , un o gyhoeddwyr annibynnol mwyaf blaenllaw’r DU. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Advent (2021), gan wasg menywod Cymru, HONNO, a dyfarnwyd Gwobr Goffa Paul Torday y Gymdeithas Awduron iddi yn 2022.
Mae ei straeon byrion wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn cystadlaethau rhyngwladol mawr: cyrhaeddodd y rownd derfynol ar gyfer Gwobr Ffuglen Manceinion (2017) ac mae hi wedi dod yn ail, wedi cael ei chynnwys ar y rhestr fer neu dderbyn clod ar gyfer Gwobr Stori Fer Fish, Gwobr Stori Fer ABR Elizabeth Jolley, Gwobr Stori Fer Caergrawnt, a Gwobr Genedlaethol Stori Fer Rhys Davies.
Mae ei gwaith wedi’i gynnwys mewn nifer helaeth o flodeugerddi gan arddangos mewn cyhoeddiadau gan New Welsh Review, The Lonely Crowd, TSS, Momaya Press, Retreat West, a Fish Publishing. Yn 2022, cafodd ei chomisiynu gan BBC Radio 4 am y tro cyntaf i ysgrifennu ‘Soft Boiled Eggs’ sef stori fer a ddarlledwyd fel rhan o’r gyfres Short Works.
Mae ganddi radd gyntaf B.Ed a gradd Meistr a gradd PhD mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe. Mae hi hefyd yn falch o fod yn un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli.
Yn ddiweddar, mae The Society of Authors wedi dyfarnu grant i Jane i weithio ar ei nofel ddiweddaraf: stori gyfoes eco-ffeministaidd rhwng cenedlaethau wedi’i gosod ar benrhyn Gŵyr
Born and educated in New York City, Kathleen B. Jones taught feminist theory for twenty-four years at San Diego State University. Besides many scholarly books, she wrote two memoirs: Living Between Danger and Love, (Rutgers University Press, 2000) and the award-winning Diving for Pearls: A Thinking Journey with Hannah Arendt (Thinking Women Books, 2015). Her essays and short fiction have appeared in Fiction International, Mr. Beller’s Neighborhood, The Briar Cliff Review, Humanities Magazine, and The Los Angeles Review of Books. Among numerous awards, she received multiple grants from the National Endowment of the Humanities, writers’ grants to the Vermont Studio Center, an honorary doctorate from Örebro University, Sweden, and a distinguished alumni award from CUNY Graduate Center. Cities of Women is her debut novel. She lives in Stonington CT.
Yn wreiddiol o Belfast, mae Elaine Canning yn arbenigwr mewn ymgysylltu â’r cyhoedd, yn awdur ac yn olygydd sy’n byw yn Abertawe, de Cymru. Mae ganddi MA a PhD mewn Astudiaethau Sbaenaidd gan Brifysgol y Frenhines Belfast ac MA mewn Ysgrifennu Creadigol gan Brifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd, hi yw Pennaeth Prosiectau Arbennig ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas. Yn ogystal ag ysgrifennu monograff a phapurau am ddrama Sbaeneg o’r oes aur, mae hi wedi cyhoeddi nifer o straeon byrion. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Sandstone City, gan Aderyn Press yn 2022. Hi hefyd yw golygydd Maggie O’Farrell: Contemporary Critical Perspectives (i’w gyhoeddi yn 2023 gan Bloomsbury). Mae hi’n aelod o Bwyllgor Cynghori’r British Council ac yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg