Y Babell Lên yw cartref llenyddiaeth ar y Maes.

Lleolir y Babell Lên yn Theatr y Weston yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.  Bydd angen band garddwrn i gael mynediad yn ystod y dydd. Gallwch brynu band garddwn yma.

Llond lle o sgyrsiau diddorol; digonedd o drafod, a chyfle i gael blas ar rai o gyhoeddiadau diweddaraf y byd llenyddol yng Nghymru.

Dewch draw i’r Babell Lên am raglen lawn o weithgareddau drwy’r wythnos.

Trefnir y Babell Lên gan yr Eisteddfod.

Noddir gweithgareddau llenyddol yr Eisteddfod gan Brifysgol Cymru a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant.

Dyma’r digwyddiadau llenyddol fydd yn cymryd ei le’n y Babell Lên fis Awst, yn y Bae:

Dydd Sadwrn 4 Awst

11:00-11:45 Agoriad Swyddogol y Babell Lên. Gyda chymorth Llenyddiaeth Cymru, bydd cyflwyniad arbennig gan rai o ddisgyblion ysgolion Caerdydd dan arweiniad Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru. Byddant yn perfformio gweithiau sy’n dathlu’r Brifddinas a grewyd yn ystod gweithdai ysgrifennu creadigol a gynhaliwyd yn eu hysgolion dan ofal Casia.

12:00-12:30 Stori Cyn Cinio! Stori wreiddiol gan Ffion Dafis

13:30-14:00 Awdur y Dydd: Ynghanol Pethe Emyr Jenkins

14:15-16:00 Rownd Derfynol Talwrn y Beirdd, BBC Radio Cymru

Dydd Sul 5 Awst:

11:00-11:45 Plant y Chwyldro? Sioned Williams ac eraill

12:00-12:30 Stori Cyn Cinio! Stori wreiddiol gan Wil Garn. Storïwr Ianto Llwyd

13:30 Awdur y Dydd: Blas ar Gristnogaeth Cymru, Euros Wyn Jones

Dydd Llun 6 Awst

11:00-11:45 Hen Wlad fy Nhadau?

Sesiwn yng nghwmni Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn a’r bardd, perfformiwr ac addysgwr clare.e.potter yn cyflwyno profiadau rhai o ddinasyddion diweddaraf Caerdydd. Bu’r ddau yn gweithio hefo Salmeen Alshaibani a Tania Mohamad Shawri, awduron sydd wedi gorfod ffoi o ‘hen wlad eu tadau’ hwythau gan geisio lloches ac ymgartrefu yn ein prifddinas ni. Clywn gyfieithiadau o’u gwaith nhw a cherddi newydd gan Ifor a Claire wedi eu hysbrydoli gan y broses o gydweithio. Trefnwyd gan Llenyddiaeth Cymru.

12:00-12:30 Stori Cyn Cinio! Stori wreiddiol gan Jon Gower

13:30-14:00 Awdur y Dydd: Stafell fy Haul: Manon Rhys a Christine James

15:30-16:00 Llyfr y Flwyddyn 2018. Fe gyhoeddwyd yr enillwr ddiwedd mis Mehefin, a dyma gyfle euraidd i glywed yr awduron buddugol yn trafod eu cyfrolau llwyddiannus ac yn darllen o’u gwaith. Cynhaliwyd gan Llenyddiaeth Cymru.

Dydd Mawrth 7 Awst

12:00-12:30 Stori wreiddiol gan Manon Rhys

13:30-14:00 Awdur y Dydd: Thrillers Tywyll Llwyd a Jon! Pyrth Uffern ac y Duwch

14:15-16:00 Cyflwyno enillwyr cystadlaethau yr adran Lên

Ymryson Barddas

17:45 Slot Chwarter i chwech! Clera – Aneurig!

Dydd Mercher 8 Awst

12:00-12:30 Stori Cyn Cinio! Stori wreiddiol gan Ceri Elen

12:45-13:15 Cennad: Catrin Beard yn holi Menna Elfyn am ei Llên Gofiant

14:15-16:00 Cyflwyno enillwyr cystadlaethau yr adran Lên

Ymryson Barddas

17:45 Slot Chwarter i Chwech! Jarman y Bardd yn sgwrsio gyda Marged Tudur

Dydd Iau 9 Awst

12:00-12:30 Stori Cyn Cinio! Stori wreiddiol gan Geraint Lewis

12:45-13:15 Bodio’r Geiriadur: Myrddin Ap Dafydd

13:30-14:00 Awdur y Dydd: Bywyd yn y Gorllewin Cymraeg Simon Brooks

14:15-16:00 Cyflwyno enillwyr cystadlaethau yr adran Lên

Ymryson Barddas

16:15 Bragdy’r Beirdd: Blas a’r gyfrol newydd Bragdy’r Beirdd

Dydd Gwener 10 Awst

12:00-12:30 Stori Cyn Cinio! Stori wreiddiol gan Catrin Dafydd

12:45-13:15 Hel Meddyliau: Alaw Griffiths a Meddwl.org

13:30-14:00 Awdur y Dydd: Twt lol! Emyr Lewis, gyda Myrddin Ap Dafydd a Jerry Hunter

14:15-16:00 Rownd Derfynol

Ymryson Barddas

Dydd Sadwrn 11 Awst:

11.00-11:45 Dathlu Prif Enillwyr Llên: Dylan Iorweth

12:00-12:30 Stori Cyn Cinio! Stori wreiddiol gan Anni Llŷn

12:45-13:15 Ydy ein byd addysg yn lladd ein llên? Ion Thomas, Esyllt Maelor

13:30-14:00 Awdur y Dydd: Margaret, Margaret Williams a Hywel Gwynfryn

14:15-16:00 8 Allan o 10 Bardd Cwis, Cerddi a lot o chwerthin!

 

Er mwyn cael cip o’r amserlen lawn, clicliwch yma.

 

Bydd yr Eisteddfod yn gweithredu system bandiau garddwrn ar gyfer gweithgareddau’r dydd a gynhelir yn y Pafiliwn yn Theatr Donald Gordon ac yn yr is-bafiliynau a leolir yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Bydd angen band garddwrn i fynychu;

  • Pafiliwn
  • Y Theatr
  • Y Babell Lên
  • Rhagbrofion cystadlu (bydd ambell ragbrawf tu allan i adeilad y Ganolfan)

Bydd modd archebu’r rhain ymlaen llaw neu’u prynu ar y diwrnod.

Ni fydd angen prynu bandiau garddwrn i grwydro Maes Bae Caerdydd na chael mynediad i’r adeiladau y tu allan i Ganolfan y Mileniwm;

  • Y Lle Celf
  • Shwmae Caerdydd
  • Ty Gwerin
  • Caffi Maes B
  • Llwyfan y Maes
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Stondinau
  • Pentref Bwyd
  • Cymdeithasau
  • Sinemaes

Nac ychwaith i grwydro llawr gwaelod y Ganolfan, lle bydd desg wybodaeth, caffi, siop a nifer o stondinau.