Tiwtor / Rhiannon Ifans

Ymunwch â Rhiannon Ifans am ddiwrnod o archwilio, trafod a dysgu am y Mabinogi a chwedlau eraill Cymru. Byddwn yn edrych yn fanylach ar straeon cyfarwydd, yn ystyried deongliadau gwahanol arbenigwyr, ac yn dysgu llu o ffeithiau difyr. Yn y prynhawn byddwn yn canolbwyntio ar ysgrifennu ac yn ceisio creu ein chwedl ein hunain yn seiliedig, o bosib, ar enw lle sy’n eich diddori. Neu efallai eich bod am ddod ag elfen o hud a lledrith i’ch nofel arfaethedig? Dyma’r cwrs i chi!