Ymunwch â’r athrawes yoga Claire Mace a’r storïwr Shonaleigh yng nghanolfan encil hardd Trigonos yng ngogledd Cymru.

Mae’r encil tri diwrnod, dwy noson hon yn ymwneud â bwydo’r meddwl, corff ac ysbryd.

Cewch dewis ymarferion yoga hawdd neu ddeinamig yn ôl eich lefel.

Hefyd bydd gennym nos Sadwrn arbennig iawn o adloniant gyda Shonaleigh.

Hefyd ar gael…. sgyrsiau o amgylch y tân, neidio mewn i’r llyn, teithiau cerdded ym myd natur.

Mae popeth yn ddewisol

Mae athrawes yoga, cantores a storïwr Claire Mace wedi’i lleoli yng Ngogledd Cymru. Mae hi’n cynnal dosbarthiadau yoga, gweithdai, encilion a hyfforddiant.

Chwedl fyw yw’r storïwr Shonaleigh: wedi’i magu yn nhraddodiad Drut’syla gan ei Bubbe (nain) mae ganddi repertoire o dros dair mil o straeon. Mae hi’n ddifyr, yn procio’r meddwl, yn gynnes ei chalon – ac yn fythgofiadwy.