Mae’r rhan fwyaf o blant yn cael eu cyflwyno i rym straeon drwy lyfrau lluniau. Bydd y llyfrau lluniau gorau’n dweud stori drwy gyfuniad o eiriau a delweddau, a’r rheini ynghyd yn gryfach na’r elfennau unigol. Boed awdur, darluniwr, neu’n medru’r ddau, bydd y cwrs hwn yn gyfle i arbrofi â’r naill ddisgyblaeth a’r llall – ac i gnoi cil ynghylch sut y mae artistiaid ac awduron yn cydweithio.

Mae creu stori mewn llai na 500 gair yn gofyn am gryn feddwl a disgyblaeth. Bydd y cwrs hwn yn edrych ar sut i greu a dewis y syniadau gorau, a sut i strwythuro’ch naratif gan ystyried sut y bydd y darluniau’n cyfrannu at adrodd y stori. Byddwch chi’n datblygu eich cymeriadau cofiadwy eich hun ac yn eu gosod mewn byd dychmygus, gan ychwanegu haenau o ystyr drwy luniau a geiriau. Byddwn yn edrych ar fanteision ac anfanteision ysgrifennu mewn odl, ac ar sut y gall gwahanol arddulliau artistig gyfrannu at y stori. Cyn diwedd y cwrs byddwn yn trin a thrafod golygu eich gwaith sy’n rhan hanfodol o’r broses, a bydd y tiwtoriaid yn rhannu’u profiadau o’r hyn y mae cyhoeddwyr yn chwilio amdano, ac yn rhoi cyngor am baratoi portffolio.

Symudodd Helen a Thomas, sy’n ŵr a gwraig, i Gymru pan oedd eu plant yn ifanc, ac mae’r ddau wedi dysgu Cymraeg ers hynny. Maent wedi pasio’u harholiadau Cymraeg Uwch, ac er y bydd y cwrs hwn yn cael ei gynnal yn Saesneg, maen nhw’n fwy na pharod i sgwrsio yn Gymraeg â chi.

Bydd Helen a Thomas yn aml yn cydweithio, ac mae’u cyfrolau wedi’u llwyfannu fel dramâu, a hyd yn oed fel opera i blant gan ysgol yng Nghanada. Thomas greodd y darluniau i stori gyntaf Helen ar odl, The Snatchabook (Alison Green Books, 2013) ac mae’r llyfr hwn wedi’i gyfieithu i 21 o ieithoedd. Enillodd Wobr Brilliant Book Oldham yn 2014. Enillodd The Knight Who Wouldn’t Fight (Alison Green Books, 2016) Wobr Bae Baglan 2017, a phlant ysgol a bleidleisiodd dros y ddwy wobr.