11.00 am – 5.30 pm

Ymunwch â Siân am ddiwrnod o grwydro a chwilota am fwydydd gwyllt o amgylch tir a gwrychoedd cyfoethog Llanystumdwy a’r ardal. Wrth edrych ar y byd o’n cwmpas byddwn ni’n dod ar draws syniadau i’w rhoi yn ein hysgrifennu, manylion godidog sydd yn dod â’r dychymyg yn fyw. Wrth edrych yn fanylach byddwn hefyd yn dod o hyd i fwydydd gwyllt i roi ar ein platiau! Byddwn yn rhannu ein gwybodaeth am fywyd gwyllt, yn dysgu enwau planhigion a’r bwydydd sydd o dan ein traed, ac yn rhannu straeon. Cwrs addas i feirdd, awduron rhyddiaith a’r ffeithiol.

Bydd y diwrnod yn dod i ben gyda blas o’r danteithion fydd wedi eu creu o’r helfa blanhigion gan gogydd preswyl Tŷ Newydd, Tony. Byddwn hefyd yn blasu Prosecco o ardal mebyd prif gymeriad nofel newydd Siân, Filò.

Os ydych yn chwilio am ychydig o awyr iach i roi yn eich gwaith creadigol, dyma’r diwrnod i chi.

Bydd te, coffi a melysion ar gael yn y ganolfan pan fyddwch yn ôl o’ch teithiau, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos: holwch ni am bris llety.

Siân Melangell Dafydd

Magwyd Siân Melangell Dafydd ar droed y Berwyn, lle mae wedi dychwelyd er iddi fyw a gweithio yn yr Eidal mewn orielau, ac yn Ffrainc ym Mhrifysgol America, Paris. Siân yw awdur Y Trydydd Peth (Gwasg Gomer, 2009), enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod 2009 a chyd-olygydd olaf y cylchgrawn llenyddol eiconig, Taliesin. Mae’n gweithio’n ddiwyd â beirdd o’r India ac ar ymchwil doethuriaeth yn defnyddio yoga ac ysgrifennu fel ymarferion cyfochrog creadigol. Bydd ei nofel, Filò (Gwasg Gomer) yn cael ei chyhoeddi yng ngaeaf 2019.