Os ydych chi am drin a thrafod eich bywyd drwy ysgrifennu, dyma’r cwrs i chi. Drwy gyfuniad o weithdai a sesiynau un-i-un gyda’r tiwtoriaid, byddwn yn edrych ar natur y cof ac yn trafod sut i greu arddull a llais, ymdeimlad o le ac amser, a deialog gredadwy. Byddwn yn profi ein sgiliau adrodd straeon ac yn archwilio’r berthynas ryfedd rhwng gwirionedd a ffuglen. Cwrs ysgrifennu ffeithiol yw hwn, ar gyfer y rheini sy’n ymddiddori mewn genres amrywiol, gan gynnwys ysgrifennu teithio, hunangofiannau, cofiannau a mwy. Mae croeso ichi ddod â’ch deunyddiau ymchwil gyda chi, neu rywbeth i’ch procio, gan gynnwys dyddiaduron, llythyrau, ffotograffau neu wrthrych o’ch gorffennol.