Ymunwch â ni am wythnos fer i grwydro ac ysgrifennu am Gymru – fel pwnc, fel ysbrydoliaeth, a phopeth rhyngddynt. Byddwn yn darllen, yn ysgrifennu ac yn crwydro digonedd hefyd, gan fynd am dro ac ar wibdeithiau o amgylch prydferthwch Gwynedd. Ar hyd y ffordd bydd o leiaf un arbenigwr lleol yn ymuno â ni, a chawn astudio bywyd gwyllt, daearyddiaeth a’r amgylchedd lleol. Bydd cyfle i gnoi cil dros hanes Cymru, ei chwedlau, ei llenyddiaeth a’i gwleidyddiaeth, ei lle yn y byd, a llawer mwy. Cwrs amrywiol fydd hwn sy’n addas yn bennaf i awduron sy’n ymddiddori mewn gwaith ffeithiol creadigol, er y byddwch yn cael eich annog i ddefnyddio pa ffurfiau bynnag sy’n mynd â’ch bryd.