Dyma gwrs delfrydol i awduron sydd wrthi’n creu drama newydd ac yn chwilio am ffyrdd arloesol, beiddgar a llawn dychymyg i ddatblygu eu gwaith ar gyfer perfformiadau byw. Drwy gyfres o weithdai, cyfarfodydd un-i-un a sesiynau i rannu’r gwaith sydd gennych ar y gweill, bydd cyfle i edrych ar bob math o ffyrdd gwahanol o ddod â’ch creadigaethau’n fyw ar y llwyfan.

Sut allwch chi lynu wrth gynllun neu syniad eich drama, ond gan gael rhwydd hynt i fod yn fentrus a mwynhau’r rhyddid a ddaw o ddilyn eich trwyn? Gan eich tywys drwy elfennau ymarferol meddwl yn ddramatig ac yn theatrig o’r dechrau’n deg, bydd y tiwtoriaid Kaite O’Reilly a David Lane yn rhannu’u profiad helaeth o berfformiadau byw o bob math. Byddwch yn gadael â’ch pen yn fwrlwm o syniadau, a bydd gennych lwybr clir o’ch blaen er mwyn dal ati i ysgrifennu a chwblhau drafft cyntaf.