11.00 am – 4.30 pm

Cwrs yw hwn ar gyfer dysgwyr Cymraeg Lefel Uwch sy’n hoffi ysgrifennu creadigol, boed yn gerddi, straeon byrion, sgriptiau, neu unrhyw ffurf arall. Bydd cyfle i chi wella eich sgiliau sgwrsio Cymraeg, ond yr ysgrifennu fydd yn cael y sylw pennaf yn ystod y dydd. Byddwn yn trafod ein hoff lyfrau, cyn rhoi tro ar lunio rhywbeth ein hunain. Bydd y diwrnod yn darparu awyrgylch gefnogol ac anffurfiol i groesawu awduron profiadol a newydd.

Bydd te, coffi a melysion ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos: holwch ni am bris llety.

Mared Lewis

Mae Mared Lewis yn awdur llawrydd, a’i nofel ddiweddaraf i oedolion yw Treheli (Y Lolfa, 2019). Mae hi hefyd wedi cyhoeddi nofelau i ddysgwyr fel rhan o gyfres Amdani, yn cynnwys Llwybrau Cul (Gomer, 2018) a hi hefyd yw awdur Fi a Mr Huws (Y Lolfa, 2017). Yn ogystal ag ysgrifennu, mae Mared hefyd yn diwtor Cymraeg i Oedolion, ac yn cynnal sesiynau ysgrifennu creadigol i oedolion yn bennaf. Mae’n byw ar Ynys Môn gyda’i gŵr ac yn fam i ddau fab sydd bellach yn fyfyrwyr. Yn ei hamser hamdden, mae hi’n mwynhau cadw’n heini, Pilates ac ymweld â’r theatr.