Cwrs yw hwn ar gyfer dysgwyr Cymraeg sydd wedi cyrraedd lefel Canolradd ac Uwch sy’n hoffi ysgrifennu creadigol, boed yn straeon byrion, deialog, disgrifiadau, drama radio neu unrhyw ffurf arall. Bydd pawb yn cael cyfle i siarad ac ymarfer eu Cymraeg ar y cwrs, a byddwch yn gwella eich sgiliau sgwrsio, ond yr ysgrifennu fydd yn cael y sylw pennaf ar y penwythnos hwn. Bydd cyfle i weithio mewn grwpiau, ac ar eich pen eich hun hefyd, a byddwn yn defnyddio pob math o bethau i’ch ysbrydoli yn cynnwys teithiau cerdded byrion o amgylch ardal hyfryd Tŷ Newydd a thasgau ysgrifennu.

Mae Bethan yn siarad iaith y gogledd a Sarah yn siarad iaith y de, felly mae’n gwrs addas i ddysgwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Noder os gwelwch yn dda nad yw’r cwrs hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr.

 

Tiwtoriaid

Bethan Gwanas

Mae Bethan Gwanas yn awdur 37 o lyfrau i blant ac oedolion yn cynnwys cyfres boblogaidd Bywyd Blodwen Jones (Gomer, 1999) i ddysgwyr Cymraeg. Mae hefyd yn olygydd, yn diwtor ysgrifennu creadigol ac yn Diwtor Cymraeg i Oedolion profiadol. Enillodd wobr Tir Na n-Og am ei llyfrau i’r arddegau gyda Llinyn Trôns(Y Lolfa, 2000) a Sgôr (Y Lolfa, 2002), a hi oedd enillydd cyntaf Gwobr Goffa T Llew Jones am nofel i blant gyda Gwylliaid (Gomer 2014). Roedd ei nofel Hi yw Fy Ffrind (Y Lolfa, 2004) ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2005. Ysgrifennodd nifer o ddramâu llwyfan, teledu a radio ac mae’n ysgrifennu colofn i’r Herald Gymraeg yn y Daily Post ers dros 18 mlynedd.

Sarah Reynolds

Daw Sarah Reynolds o Surrey yn wreiddiol, ond mae wedi ymgartrefu yng Nghymru ers 2009 ac wedi meistroli’r Gymraeg. Bu’n gweithio ym myd teledu am rai blynyddoedd. Enillodd gystadleuaeth stori fer Rhys Davies yn 2014, ac yn ddiweddar, derbyniodd radd MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe. Yn 2016 cyrhaeddodd Sarah rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni ac yn yr un flwyddyn cyhoeddodd nofel, Dysgu Byw (Gomer) sydd yn trafod hynt a helynt dosbarth nos o ddysgwyr y Gymraeg. Yn 2018 cyhoeddodd Sarah ei hail nofel, Cyffesion Saesnes yng Nghymru (Atebol), fel rhan o gyfres llyfrau Amdani i ddysgwyr. Mae Sarah yn dysgu Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth lle mae hi’n astudio ar gyfer doethuriaeth.