11.00 am – 4.30 pm

Ymunwch ag Angharad Tomos am ddiwrnod o ysgrifennu i blant a phobl ifainc. Yn enwog am ei chyfres bytholwyrdd i blant sydd wedi ei lleoli yng Ngwlad y Rwla, mae Angharad wedi troi ei llaw yn ddiweddar at lenyddiaeth i oedolion ifainc. Byddwn yn cychwyn y diwrnod drwy edrych ar arddull rhai o’n awduron llyfrau plant a phobl ifainc gorau i’n hysbrydoli. Byddwn yn archwilio themâu perthnasol i blant a phobl ifainc, yna byddwn yn rhoi cynnig ar greu ein cymeriadau ein hunain a’u gosod mewn straeon gwreiddiol. Cwrs addas i ddechreuwyr a rhai mwy profiadol. Os oes gennych stori ar y gweill, dewch â hi!

Bydd te, coffi a melysion ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos: holwch ni am bris llety.

 

Angharad Tomos

Angharad Tomos yw un o hoff awduron plant Cymru. Hi greodd cyfres hynod boblogaidd Rwdlan ac yn 1986 enillodd wobr Tir na n-Og am ei chyfrol Llipryn Llwyd o’r gyfres honno. Derbyniodd y wobr am yr eilwaith yn 1993 am Sothach a Sglyfath, ac yn 2009, cyflwynwyd Tlws Mary Vaughan Jones iddi am ei chyfraniad sylweddol i lenyddiaeth plant. Mae hi hefyd yn awdur toreithiog i oedolion. Enillodd Medal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd yn 1982, a Medal Lenyddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith yn 1991 am Si Hei Lwli ac yna yn 1997 am Wele’n Gwawrio. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae wedi troi at ysgrifennu ar gyfer pobl ifanc. Cyhoeddwyd Darn Bach o Bapur am hanes y Beasleys yn 2014, yna Paent yn 2016 am yr arwisgo a’r ymgyrch beintio, ac i ddathlu canrif ers rhoi’r bleidlais i ferched, cyhoeddwyd Henriett y Syffrajet yn 2018. Cyhoeddir ei gwaith gan Y Lolfa a Gwasg Carreg Gwalch.