Bydd y cwrs hwn yn edrych ar sut y gall ysgrifennu creadigol a darllen llenyddiaeth berthnasol helpu gyda’r broses iachau. Byddwn yn profi drosom ein hunain rym ysgrifennu personol, ac yn defnyddio hyn i edrych ar sut y gallwn helpu pobl eraill. Cwrs yw hwn sydd wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer ymarferwyr a gofalwyr, a bydd yn rhoi syniadau am weithdai arloesol ac adnoddau a fydd yn paratoi ac yn galluogi’r rheini sy’n cymryd rhan i barhau â’r gwaith y tu allan i Dŷ Newydd.

 

Mae’r tiwtor, Victoria Field, yn awdur ac yn therapydd barddoniaeth sydd wedi gweithio’n helaeth yn y gymuned ac mewn lleoliadau iechyd, gan gynnwys gydag unigolion sy’n byw â dementia, ar uned strôc, a chydag oedolion sydd ag anghenion addysgol ychwanegol. Byddwn hefyd yn clywed gan westeion a fydd yn sôn am sut y mae ysgrifennu a darllen wedi’u helpu i wella. Yn eu plith mae Rachel Kelly, sydd wedi ysgrifennu am sut y llwyddodd i oresgyn iselder dwys gyda chymorth barddoniaeth, ac Eric Ngalle Charles, a orfodwyd i ffoi o’i gartref yn Cameroon rhag erledigaeth, ac sydd wedi ysgrifennu’n helaeth am ei brofiadau. Mae’r cwrs hwn yn addas i awduron sy’n dechrau arni ac awduron profiadol fel ei gilydd, yn ogystal â gweithwyr meddygol a gofal iechyd proffesiynol, cwnselwyr, therapyddion, gweithwyr cymdeithasol, llyfrgellwyr, academyddion, athrawon a darparwyr gwasanaethau mewn ystod o leoliadau iechyd a therapiwtig.

 

Mae’r cwrs hwn yn rhan o waith Llenyddiaeth Cymru ar iechyd a llesiant.

 

Tiwtor

Victoria Field

Mae Victoria Field yn awdur barddoniaeth, ffuglen, dramâu a chofiannau, ac mae’n gweithio fel therapydd barddoniaeth. Mae hi’n mentora hyfforddeion ar gyfer yr International Federation for Biblio-Poetry Therapy, sy’n cynnig cymwysterau mewn Therapi Barddoniaeth. Mae hi wedi defnyddio ysgrifennu creadigol a darllen mewn lleoliadau iechyd a gofal iechyd niferus, gan gynnwys ysbytai, meddygfeydd, cartrefi gofal a llyfrgelloedd. At hynny, mae Victoria wedi cyd-olygu tri llyfr ar ysgrifennu therapiwtig, yn fwyaf diweddar Writing Routes (JKP, 2010), yn ogystal â chyfrannu penodau ac erthyglau at sawl cyfrol arall. Mae hi’n diwtor i’r Professional Writing Academy. Enillodd The Lost Boys (Waterloo, 2013), sef ei chasgliad diweddaraf o farddoniaeth, Wobr Holyer an Gof. Mae ei ffuglen wedi’i gomisiynu i BBC Radio 4, a chyhoeddodd hunangofiant, Baggage: A Book of Leavings, gan Francis Boutle yn 2016.
www.thepoetrypractice.co.uk

 

Darllenwyr Gwadd

Rachel Kelly

Addysgwyd Rachel Kelly ym Mhrifysgol Rhydychen, a dechreuodd ar ei gyrfa yn Vogue cyn treulio deng mlynedd yn newyddiadurwraig gyda The Times. Mae bellach yn ymgyrchu i leihau’r stigma sydd ynghlwm wrth salwch meddwl. Ei llyfr diweddaraf yw Walking on Sunshine: 52 Small Steps to Happiness.

Y Poetry Exchange

Mae’r Poetry Exchange yn archwilio’r syniad o gerddi fel gyfeillion. Maent yn gwesteia sgyrsiau gydag unigolion am y gerdd sydd wedi chwarae rôl yn eu bywydau, ac yn eu cyflwyno wedyn ag anrheg: recordiad arbennig o’u cerdd, wedi ei ysbrydoli am eu teimladau ohoni. Maent yn rhannu’r sgyrsiau hyn drwy eu podlediad poblogaidd. Sefydlwyd y Poetry Exchange gan Fiona Bennett, a caiff ei arwain gan gymuned o actorion, awduron a cynhyrchwyr yn cynnwys John Prebble, Michael Shaeffer a Sally Anglesea.
www.thepoetryexchange.co.uk
@PoetryExch