Cwrs ysgrifennu creadigol 10 wythnos rhad ac am ddim i unrhyw un dros 16 sy’n byw ym Mlaenau Gwent. Delfrydol ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn ysgrifennu creadigol a barddoniaeth. 

Bydd y cwrs hwn yn helpu i feithrin eich hyder ysgrifennu a chreadigedd, gan edrych ar straeon, cymeriadau, arddull, perfformiad a hunanfynegiant; p’un a ydych am ysgrifennu fel hobi, gyrfa neu wella’ch gallu i gyfathrebu trwy ysgrifennu. Dan arweiniad yr awdur proffesiynol Mark Blayney, sydd wedi ennill gwobrau am ysgrifennu straeon, cerddi, perfformiadau a newyddiaduraeth. Mae Mark yn diwtor Cronfa Lenyddol Frenhinol ac yn gweithio’n rheolaidd gydag awduron a pherfformwyr ifanc.