10 Uchaf Llenyddiaeth Cymru yn 2024
![10 Uchaf Llenyddiaeth Cymru yn 2024](https://www.llenyddiaethcymru.org/wp-content/uploads/2024/09/Llen-mewn-Lle-Bethesda-400x700-1-700x400.png)
Nodyn gan ein Cyfarwyddwr Artistig, Leusa Llewelyn
Dyma fraint cael cyflwyno cipolwg ar flwyddyn brysur Llenyddiaeth Cymru. Roedd yn rhaid cadw’r rhestr i ddeg peth, rhag i’n cylchlythyr droi yn nofel. Ond dyna biti nad oedd lle i ni gael canu clodydd rhaglenni a phrosiectau eraill. Tu hwnt i’n rhestr o ddeg, rhai o’m prif uchafbwyntiau oedd ein pedwaredd rhifyn o Cynrychioli Cymru sydd wedi bod yn ddwys ddatblygu carfan o 14 awdur sy’n cael eu tangynrychioli o fewn ein byd llenyddol i hogi eu sgiliau ysgrifennu, a’i chwaer-raglen ‘Sgwennu’n Well sydd wedi bod yn datblygu chwe hwylusydd llenyddol i ddefnyddio eu crefft o ysgrifennu i wneud lles i gynulleidfaoedd ledled cymunedau Cymru. Mae wedi bod yn fraint cael cydweithio â cymaint o awduron gwych o Gymru a thu hwnt eleni, a chyrraedd cynulleidfaoedd ym mhob cwr o’r wlad.
Dyma yrru ein dymuniadau gorau i’n dilynwyr a’n ffrindiau oll dros gyfnod dathliadau mis Rhagfyr, gan edrych ymlaen i gychwyn ar flwyddyn gyffrous arall yn 2025!
Lansio Rhaglen Canolfan Ysgrifennu Creadigol Tŷ Newydd
Yn yr hydref cyhoeddon ni raglen llawn dop o gyrsiau Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ar gyfer flwyddyn nesaf. Pa un ai eich bod yn gobeithio meithrin eich crefft fel bardd neu lenor, ysgrifennu eich bywgraffiad, cyfuno creadigrwydd gyda yoga neu nofio gwyllt, neu â diddordeb derbyn cyngor gan asiant llenyddol, mae cwrs i bawb yn Nhŷ Newydd! Mae Bwthyn Encil Nant hefyd yn cynnig gofod tawel i’r rheiny sydd eisiau treulio amser yn canolbwyntio ar eu Gwaith ar y gweill heb unrhyw dasgau a chyfrifoldebau i dynnu eu sylw.
I nifer o awduron ar bob cam o’u siwrneiau – boed nhw’n dechrau arni neu’n awduron proffesiynol – mae treulio amser yn ein tŷ hanesyddol wedi cael effaith trawsnewidiol.
Dywedodd Jaqueline Ward, a fynychodd gwrs chwedleua dan ofal Phil Okwedy a Daniel Morden: “Gadewais i’r cwrs gyda stori newydd yn barod i’w pherfformio, ac rydw i wedi gwneud hynny ddwywaith yn barod ers y cwrs”.
I Kaja Brown, roedd yr Encil gydag Asiant Llenyddol yn “amhrisiadwy” gan ei fod wedi digwydd “law yn llaw a phryd cymerais i’r cam i fod yn awdur llawrydd”, tra bod Rosy Adams, awdur o ganolbarth Cymru, wedi darganfod Tŷ Newydd ddwy flynedd yn ôl, ac yn disgrifio sut y gwnaeth hi “syrthio mewn cariad â’r lle. Y tŷ, y gerddi, y llwybrau ar hyd Afon Dwyfor, ac ar hyd y môr i Gricieth. Y bobl hyfryd sy’n dy groesawu fel petai ti’n yn aelod o’r teulu.” Mae hi’n dychwelyd i Dŷ Newydd unwaith y flwyddyn, ac yn dweud “bob tro y bydda i yma mae fy ‘sgwennu’n cael adfywiad.”
Mae ein cyrsiau ar gael i unrhyw un sydd eisiau datblygu eu sgiliau ‘sgwennu, ac fel elusen gofrestredig, mae Llenyddiaeth Cymru yn ddiolchgar iawn i’r unigolion a’r ymddiriedolaethau sy’n cyfrannu rhoddion i gefnogi ein gwaith. Nid yn unig y maent yn ein galluogi i wneud gwaith cynnal a chadw angenrheidiol ar y tŷ, ond hefyd i gynnig ysgoloriaethau i’r rheiny na fyddai’n gallu elwa o un o’n cyrsiau fel arall.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae haelioni ein rhoddwyr wedi ein galluogi i gynnig 17 ysgoloriaeth, 11 ohonynt ar gyfer cyrsiau Tŷ Newydd, a chwech ar gyfer encilion yn Nant. Os hoffech chi ddarganfod rhagor am ein hysgoloriaethau, cliciwch yma: Cymorth Ariannol.
Os y byddech chi’n ystyried gwneud cyfraniad i gefnogi’r elfen hon o’n gwaith elusennol, ewch i’n tudalen Cefnogi, neu cysylltwch â catrin.slater@llenyddiaethcymru.org
Ein Beirdd Cenedlaethol
Yn ystod y flwyddyn mae ein beirdd cenedlaethol, Bardd Cenedlaethol Cymru, Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate Wales wedi bod wrthi’n llunio cerddi a rhedeg prosiectau lu. Mae’r beirdd wedi canolbwyntio ar amrywiol themâu – o’r dwys i’r digrif.
Yn ogystal ag ymddangos mewn darllediadau ac erthyglau newyddion di-ri o Sky News i’r Western Mail, mae ein Bardd Cenedlaethol, Hanan Issa wedi llunio nifer o gerddi comisiwn eleni er enghraifft i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer coedlan goffa Covid newydd yn Erddig a cherdd gynhadledd Economi Gylchol. Bu’n cydweithio gyda beirdd rhyngwladol ac o Gymru yn dysgu am y gynghanedd fel rhan o brosiect cyffrous a fydd yn cael ei gyhoeddi ddechrau’r flwyddyn. Mae Hanan hefyd wedi bod yn cynllunio prosiect pwysig yn edrych ar iechyd merched yng Nghymru a fydd yn cael ei arwain ganddi hi a Gwyneth Lewis. Bydd mwy o wybodaeth am y prosiect, a enwir yn Menywod Cronig, yn cael ei ddatgelu yn 2025.
Yn ystod y flwyddyn mae Bardd Plant Cymru, Nia Morais wedi perfformio yng ngŵyl Lenyddiaeth Kolkata – un o wyliau llenyddiaeth mwyaf y byd, wedi cyhoeddi pamffled o gerddi Celf ar y Cyd, a chynnal gweithdai amrywiol ar faes Eisteddfod yr Urdd, yng Ngwyl y Gelli, ac yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.
Mae Alex Wharton, Children’s Laureate Wales hefyd wedi bod yn brysur! Ym mis Mai rhoddodd ei ‘sgidiau cerdded am ei draed yn barod i ddechrau ar ei daith ‘Green and Carefree’. Fe gerddodd dros 40 milltir mewn 5 diwrnod, gan ymweld â 5 ysgol gynradd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar y ffordd. Fe gymerodd Alex ran yn ein prosiect Bwyd a Hwyl drwy fod yn un o bum awdur i gynnal gweithdai gyda phlant cynradd yn ystod gwyliau’r Haf. Uchafbwynt arall i Alex oedd fod rhan o un o’i gerddi, wedi ymddangos ar garped coch y Met Gala ym mis Mai, diolch i Lewis Hamilton a’i ddiddordeb yn John Ystumllyn. Digwyddiad annisgwyl ond cyffrous iawn!
Ewch draw i adran prosiectau gwefan Llenyddiaeth Cymru i ddarllen eu gwaith.
Pencerdd – Cynllun i gyw-gynganeddwyr
Braint oedd cyhoeddi carfan ac athrawon barddol cyntaf Pencerdd eleni – ein cynllun i feirdd Cymraeg sydd am ddatblygu eu sgiliau fel cynganeddwyr. Dyma gynllun â’r bwriad o roi hwb i feirdd newydd y Gerdd Dafod gan feithrin lleisiau a safbwyntiau newydd yng nghrefft y gynghanedd yng Nghymru. Mae Pencerdd yn cael ei gynnid gyda chefnogaeth Cymdeithas Barddas.
Ydi’r rhaglen hon at eich dant chi? Newyddion da, mae Pencerdd yn dychwelyd am ail flwyddyn!
20 Ionawr 2025 yw’r dyddiad cau. Ymgeisiwch nawr!
Plant Creadigol Cymru’n Cefnogi Taith Hanesyddol Cymru yn Gemau Rhagbrofol Ewro gyda 400+ o Gerddi
Wrth i dîm Cymru gyrraedd Gemau Ail-gyfle EWRO Menywod UEFA am y tro cyntaf, fe wnaeth cannoedd o blant roi pensil ar bapur ac ysgrifennu cerddi i ddangos eu cefnogaeth i’r tîm!
Cyn y gemau, cydweithiodd Llenyddiaeth Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru ar alwad cyhoeddus oedd yn gwahodd plant Cymru i ddefnyddio grym barddoniaeth i ddathlu cyflawniad Cymru a dangos pa mor ysbrydoledig ydyn nhw. Daeth cannoedd o gerddi i law. O Fôn i Arberth, Merthyr i’r Wyddgrug, Y Rhyl i Aberhonddu, dangosodd plant o 6 – 16 oed eu gwerthfawrogiad o’r tîm, a hwythau ar drothwy moment hanesyddol.
Cafodd sgwad Cymru, yn cynnwys Rheolwr Cymru, Rhian Wilkinson a’r chwaraewyr Angharad James, Jess Fishlock, Hayley Ladd, Kayleigh Barton a llawer mwy, eu syfrdanu gan ymdrechion creadigol plant Cymru. Gyda’r tîm bellach wedi hawlio eu lle yn rowndiau terfynol y bencampwriaeth, gobeithio bydd cerddi angerddol y bobl ifanc hyn yn rhoi hwb iddyn nhw wrth baratoi at eu gemau grŵp yn y Swistir yn 2025. Darllen mwy.
Ein Bwrdd Rheoli
Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth, mae cefnogaeth ein Hymddiriedolwyr yn hanfodol bwysig. Maent yn cynrychioli ystod eang sgiliau a phrofiadau ac yn dod o sawl sector amrywiol. Eleni, roeddem yn falch iawn o groesawu pum aelod newydd – Nasir Adam, Margiad Eckstein, Mohamed Hassan, Martin Willis, a Charlotte Williams. Rydym yn parhau i chwilio am ragor o Ymddiriedolwyr a fydd yn cyfrannu at bennu ein cyfeiriad strategol ac yn helpu i ddarparu llywodraethu effeithiol ac adeiladol.
Ydych chi’n angerddol dros y celfyddydau a phosibiliadau trawsnewidiol llenyddiaeth? Cysylltwch â ni neu darllenwch fwy am y rôl a’r cyfrifoldebau yn y pecyn yma.
Ysbrydoli Cymunedau
Cynllun ariannu unigryw ar gyfer digwyddiadau llenyddol yw Cronfa Ysbrydoli Cymunedau wedi ei noddi gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r cynllun yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer digwyddiadau llenyddol unrhyw le yng Nghymru; mewn neuaddau pentref, mewn llyfrgelloedd, mewn tafarndai, mewn ysgolion, mewn clybiau ieuenctid – a hefyd ar lwyfannau rhithwir ar gyfer grwpiau sy’n cwrdd arlein. Cefnogwyd 101 o sefydliadau yn 2024 er mwyn cynnal darlithoedd, sgyrsiau, gweithdai ysgrifennu creadigol, a mwy.
Ydych chi’n trefnu digwyddiad llenyddol yn 2025? Gwnewch gais nawr ar dudalen Cronfa Ysbrydoli Cymunedau
Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024
Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn uchafbwynt blynyddol i ni yn Llenyddiaeth Cymru, ac felly hefyd i lên garwyr ar hyd a lled y wlad. Eleni, fe gynhaliwyd seremoni fawreddog yn y Galeri yng Nghaernarfon, lle cyhoeddwyd mai Sut i Ddofi Corryn gan Mari George yw Llyfr y Flwyddyn 2024, ac fe gipiodd Tom Bullough y Brif Wobr yn y Saesneg gyda’i gyfrol Sarn Helen.
Gallwch ddarganfod rhagor am holl enillwyr y noson ar ein gwefan, mwynhau galeri o luniau, ac os nad ydych wedi gwneud eisoes, ewch ati i ddarllen eu gwaith dros yr ŵyl!
Roedd y dathlu yn parhau fis Hydref, oherwydd am un penwythnos arbennig cawsom gyfle i gyd-ddathlu llwyddiant Mari George gyda darllenwyr Cymru. Aeth Mari ar daith o Gaerdydd i Gaernarfon gan gynnal digwyddiadau mewn naw siop lyfrau ar hyd y ffordd. Yn ystod y dydd bu cyfle i ddarllenwyr gwrdd â Mari a chael arwyddo eu llyfr, gyda digwyddiadau mwy estynedig gyda’r nos. Roedd gwestai adnabyddus yn ymuno â Mari yn y digwyddiadau hynny, gan gynnwys y Prifardd a chyn Fardd Plant Cymru Ceri Wyn Jones, yr awdur ac un o griw Podlediad Colli’r Plot Bethan Gwanas, a’r cyfieithydd a’r Prifardd Rhys Iorwerth.
Dathlu Tŷ Newydd yn y Pierhead
Ym mis Chwefror, cynhaliwyd digwyddiad barddoniaeth yn y Senedd fel rhan o’n cyfres Dihuno’r Dychymyg, wedi eu noddi gan AS Dawn Bawden. Ffocws y noson oedd datblygu awduron, a’r rôl allweddol mae Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn ei chwarae. Ar y panel yn rhannu eu profiadau personol roedd gennym y bardd Grug Muse, ein Bardd Cenedlaethol presennol, Hanan Issa, a’r cyn-Fardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn. Roedd hi hefyd yn bleser cael croesawu ein gwestai arbennig EUNIC i ymuno â ni ar y noson fel rhan o’u taith o gwmpas Cymru.
Cyrsiau Strategol
Ochr yn ochr â’n rhaglen o gyrsiau ysgrifennu creadigol blynyddol yn Nhŷ Newydd, sydd yn agored i unrhyw un eu mynychu, rydym yn cynnal cyfres o gyrsiau sydd wedi eu creu gyda’r nod o fynd i’r afael â thangynrychiolaeth yn y sîn lenyddol yng Nghymru. Mae’r cyrsiau yn rhad ac am ddim ac mae proses gystadleuol i’w mynychu.
Ar ddechrau’r flwyddyn roedd hi’n fraint croesawu criw Kathod i Dy Newydd ar gyfer cwrs a oedd yn cyfuno barddoniaeth lafar a cherddoriaeth. Dychwelodd Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad, ein cwrs ysgrifennu creadigol ar gyfer pobl Fyddar a/neu anabl, ac ein hencil ar gyfer awduron LHDTC+ yng Nghymru gyda Llyfrau Lliwgar. Fe wnaethom hefyd gyhoeddi cwrs preswyl newydd sbon i feirdd ac artistiaid perfformiadol, Speak Back, a gynhelir ym mis Mawrth 2025, yn ogystal â chynnig galwad agored i bum awdur sydd yn ysgrifennu yn Gymraeg neu iaith leiafrifol arall i fod yn llysgennad llenyddol dros Gymru ar gwrs fis Mai nesaf mewn partneriaeth a EUNIC.
Eleni hefyd roedd yn wych cyd-weithio â Gŵyl y Gelli unwaith eto ar y cynllun Awduron wrth eu Gwaith, a oedd yn cynnig wythnos llawn o gyfleoedd ar gyfer awduron yn ystod yr ŵyl.
Llên Mewn Lle
Mae Llên mewn Lle, yr ydym yn ei redeg mewn partneriaeth â WWF Cymru, yn cefnogi prosiectau gan awduron yn eu cymunedau eu hunain sydd yn archwilio’r argyfwng hinsawdd a natur trwy lenyddiaeth. Mae’n cynnig nawdd i awduron a hwyluswyr i greu, sefydlu a chyflawni gweithgaredd sy’n mynd i’r afael â materion sy’n bwysig yn eu cymuned leol. Un o’r prosiectau a gefnogwyd yn 2022-2023 oedd Gwledda, dan ofal Iola Ynyr yn Rhosgadfan, ac yn gynharach eleni cynhaliwyd digwyddiad i ddathlu’r prosiect lle daeth aelodau o’r gymuned ynghyd i weld cerflun arbennig o glogyn brethyn Kate Roberts yn cael ei dadorchuddio.
Gwaith yr artist Simon O’Rourke yw’r cerflun, sydd wedi ei greu o bren wedi ei adfer, ac arno eiriau y mae aelodau’r gymuned wedi eu hawgrymu yn dilyn prosiect Gwledda.
Diosg
Mae’r awdur a’r bardd, Casia Wiliam, hefyd wedi ei chefnogi i sefydlu grŵp ysgrifennu creadigol newydd ym Methesda fel rhan o’r cynllun eleni. Mae’r grŵp ‘sgwennu yn cwrdd ers mis Ebrill yng Nghanolfan Cefnfaes yn y pentref ac wedi mabwysiadu’r enw ‘Diosg’ ar ôl cerdd gan Casia lsy’n trafod eu profiadau hyd yma. Nod y cynllun yw datblygu lleisiau creadigol y gymuned a lleihau pryder hinsawdd trwy lenyddiaeth.