Dewislen
English
Cysylltwch

A Writing Chance: Cyhoeddi Enwau’r 11 Awdur Llwyddiannus

Cyhoeddwyd Iau 1 Gor 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
A Writing Chance: Cyhoeddi Enwau’r 11 Awdur Llwyddiannus
Mae New Writing North wedi cyhoeddi enwau’r 11 awdur llwyddiannus sydd wedi eu dewis i dderbyn cefnogaeth gan A Writing Chance, ymyrraeth gadarnhaol sydd wedi ei ddylunio i herio diwydiant ble mae 75% o newyddiadurwyr yn dod o’r haenau cymdeithasol uchaf.

Caiff y prosiect hwn yn cael ei gyd-ariannu gan yr Actor Michael Sheen, Sefydliad Joseph Rowntree, gyda chefnogaeth gan y New Statesman a’r Daily Mirror. Cyflawnir y prosiect gan New Writing North, a cyflawnir yr ymchwil gan Brifysgol Northumbria, gyda chefnogaeth gan sawl sefydliad llenyddol. Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o fod wedi cefnogi’r cynllun i gyrraedd awduron ar draws Cymru.

Mae Michael Sheen wedi galw ar y diwydiant cyfryngau i greu opsiynau a chyfleoedd ar gyfer egin awduron a newyddiadurwyr sydd o gefndiroedd incwm isel a chefndiroedd sydd wedi eu tangynrychioli. Mae’r prosiect hwn wedi ei ddylunio i ddarganfod talent newydd, rhoi cefnogaeth i awduron o gefndiroedd sydd wedi eu tangynrychioli i ddatblygu yn y diwydiannau creadigol, a grymuso cyhoeddwyr a golygyddion i ehangu eu safbwyntiau.

Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys elfen o ymchwil a gynhelir gan Brifysgol Northumbria, sydd yn canolbwyntio ar wella ein dealltwriaeth o’r rhwystrau hynny sydd yn wynebu awduron o amrywiaeth o gefndiroedd sydd wedi eu tangynrychioli yn y diwydiant.

Dewiswyd 11 awdur o 750 o ymgeiswyr ar gyfer y prosiect. Byddent oll yn derbyn mentora un-wrth-un â awdur neu newyddiadurwr profiadol, cefnogaeth ariannol o £1500, gwahoddiad I ddyddiau mewnwelediad gyda’r partneriaid yn y cyfryngau, a chyhoeddi neu ddarlledu eu gwaith.

 

Dyma’r 11 awdur a fydd yn rhan o’r prosiect:

The writers selected for A Writing Chance are:

Mayo Agard-Olubo, Llundain

Tammie Ash, Bradford

David Clancy, Ulverston

Jacqueline Houston, Glasgow

Maya Jordan, Y Drenewydd

Anna Maxwell, Lancaster

Tom Newlands, Llundain

Grace Quantock, Pont-y-pŵl

Elias Suhail, Folkestone

Stephen Tuffin, Swindon

Becka White, Llundain

 

Am ragor o fanylion, ewch draw i wefan New Writing North.