Dewislen
English
Cysylltwch

Adnoddau addysgiadol yn cael eu lansio i nodi Diwrnod Cancr y Byd

Cyhoeddwyd Iau 4 Chw 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Adnoddau addysgiadol yn cael eu lansio i nodi Diwrnod Cancr y Byd

Mae’r Canolfan Ymchwil Cancr Cymru wedi gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i lansio cystadleuaeth a phecyn addysgiadol i nodi Diwrnod Cancr y Byd.

Nod y pecyn hwn, sydd wedi ei ddatblygu gydag athrawon, ymchwilwyr a beirdd, yw ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ymchwilwyr cancr wrth wella sgiliau llythrennedd a gallu digidol ar yr un pryd. Mae prosiect RIME (Research Inspires ME) yn cynnwys cwis sydd yn addysgu am risgiau cancr, ac yn ddull i blant asesu dilysrwydd ymchwil feddygol sydd yn cael eu canfod ar-lein yn ogystal â chystadleuaeth i danio’r awen greadigol wrth ysgrifennu cerdd am ymchwil cancr.

Gan ddod a’r celfyddydau a’r gwyddorau ynghyd, mae’r adnodd rhad ac am ddim hwn wedi ei lunio i’w ddefnyddio gan athrawon Gwyddoniaeth, Cymraeg, Saesneg ac ABaCh sy’n gweithio gyda disgyblion Cyfnod Allweddol 3 (oedran 11 – 14 mlwydd oed). Gall unrhyw un lawrlwytho’r adnoddau; ac o bosib y byddant o ddiddordeb i athrawon sy’n addysgu gartref oherwydd y cyfnod clo presennol.

Mae’r gystadleuaeth bellach ar agor ac yn gwahodd disgyblion ysgol i ysgrifennu cerdd am ymchwil cancr. I’w hysbrydoli, mae’r beirdd Ifor ap Glyn (Bardd Cenedlaethol Cymru) ac Owen Sheers wedi cyfansoddi cerddi eu hunain, yn dilyn sgyrsiau gyda rhai o ymchwilwyr cancr presennol Cymru. Mae eu cerddi wedi’w trosi yn fideo-gerddi (wedi’w cynhyrchu gan Rewired Life) ac ar gael fel rhan o’r pecyn addysgiadol.

Mae’r gystadleuaeth ar agor tan 30 Ebrill 2021. Bydd y beirdd yn dewis un enillydd Cymraeg ac un enillydd Saesneg, gyda’r ddau enillydd yn derbyn £150 yr un mewn tocynnau llyfr ar gyfer eu hysgol a chyfle i gael arddangos eu cerdd mewn sefydliad ymchwil cancr.

Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, ysgrifennodd y gerdd Gymraeg ei hiaith. Meddai Ifor:

“Braint o’r mwyaf oedd cyfrannu at y prosiect hwn, yn enwedig oherwydd y cyfle i sgwrsio’n uniongyrchol gyda rhai o’r gwyddonwyr a’r meddygol sydd yn gweithio ar ymchwil cancr yma yng Nghymru. Wrth iddynt egluro eu gwaith i mi, roedd y syniadau o sut i gyfleu hynny mewn cerdd yn cychwyn dod ynghyd. Mae’n bwysig cadw’r pontydd rhwng bydoedd gwyddoniaeth a’r celfyddydau yn y modd yma. Gobeithiaf y bydd unrhyw blentyn sydd yn gwylio’r ffilm yn cael eu hysbrydoli i ddysgu mwy am ymchwil feddygol, ac edrychaf ymlaen at ddarllen eu cerddi.”

Owen Sheers, y bardd, yr awdur a’r dramodydd, fu’n brysur yn ysgrifennu’r gerdd Saesneg ei hiaith. Meddai Owen, “Mae barddoniaeth yn edrych ar y byd trwy iaith, yn ffordd o fynd tu hwnt i arwyneb pethau. Ar gyfer y gerdd hon roedd modd i mi wneud union hynny, wedi fy lliwio gan straeon rai o’r ymchwilwyr cancr anhygoel er mwyn defnyddio bioleg y salwch i archwilio sut fath o effaith eang a gaiff eu gwaith. Mae’n faes ymchwil gwbl syfrdanol ac yn gwbl hanfodol. Roedd fy sgyrsiau gyda’r ymchwilwyr yn hynod ysbrydoledig ac rwy’n gobeithio y bydd y fideo-gerdd o gymorth i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ymchwilwyr. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddarllen cerddi’r disgyblion maes o law.”

Dr Kieran Foley, Radiolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Bro Morgannwg ac ymchwilydd crinigol ar gyfer Canolfan Gancr Felindre a Phrifysgol Caerdydd, yw un o’r ymchwilwyr fi’n rhan o ddatblygiad y prosiect. Meddai: “Weithiau mae yna dueddiad i bobl greu darlun o wyddonydd mewn cot wen pan fydd rhywun yn meddwl am ymchwilwyr cancr. Mae fy rôl i yn ymwneud mwy gyda’r cleifion eu hunain. Mae fy ymchwil i yn cwmpasu defnyddio’r sgans radiolegol a gaiff cleifion gyda’u diagnosis er mwyn gwella’r penderfyniadau ynglyn â pha driniaethau sydd gan y siawns gorau o guro’r cancr, a pha fath o sgans ddylid eu defnyddio a phryd. Dwi wir yn mwynhau gweithio gydag ysgod o bobl o wahanol arbenigedd ac ysbytai, a gweld yr ymchwil sy’n cael ei wneud yma yn cael eu defnyddio mewn gwaith dydd i ddydd. Mae’n beth braf iawn gwybod bod fy ngwaith yn gwella bywydau cleifion cancr a gobeithiaf y bydd y pecyn addysgiadol hwn yn annog pobl ifanc i ystyried gyrfa yn y maes hwn.”

Meddai Dr Joanna Zabkiewicz, ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd, “Mae’n holl bwysig ein bod yn annog pobl ifanc i feddwl am yrfaoedd ym myd ymchwil cancr. Mae’n faes hynod o ddiddorol. Mae fy rôl i yn ymwneud â datblygu triniaethau newydd ar gyfer cleifion cancr. Rwyf wir yn mwynhau astudio sut mae celloedd cancr yn gweithio yn y corff dynol. Mae curo cancr yn dibynnu ar bobl mewn amryw o rolau gwahanol: fferyllwyr, nyrsus, peirianwyr, rheolwyr data… mae’r rhestr yn ddi-ddiwedd! Gobeithiaf y bydd y fflmiau a’r pecyn addysgiadol hyn yn annog mwy o bobl i ymgymryd â gyrfa mewn ymchwil feddygol.”

Mae’r ffilmiau a’r pecyn addysgiadol ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ac ar gael i’w lawrlwytho yma. 

Mae’r adnoddau hyn wedi eu creu mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Canolfan Ymchwil Cancr Cymru a’r Centre for Trials Research, gyda nawdd gan y Wellcome Trust.