Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2024 – Cyhoeddi enwau’r awduron

Mae Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli yn cynnig deg diwrnod o gyfleoedd datblygu creadigol wedi’u rhaglennu’n llawn, sydd yn caniatáu i’r awduron dethol i gymryd rhan yn nigwyddiadau’r Ŵyl, a mynychu gweithdai gyda chyhoeddwyr, asiantiaid ac, yn hollbwysig, gydag artistiaid rhyngwladol sefydledig.
Mae’r rhaglen ar agor i awduron sydd yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg ar draws genres gwahanol – ffuglen, ffeithiol, ffeithiol greadigol a barddoniaeth – ac y 10 ymgeisydd llwyddiannus eleni yw:
- Dylan Huw
- Hammad Rind
- Isabel Adonis
- JL George
- Joshua Jones
- Katie Munnik
- Megan Angharad Hunter
- Rachel Dawson
- Taylor Edmonds
- Zoë Brigley
Mae’r cyfranogwyr hyd yma wedi ennill nifer o wobrau ac wedi cyrraedd nifer o restrau byrion, gan gynnwys Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, Llyfr y Flwyddyn, Gwobr New Welsh Writing, Gwobr Ysgrifennu Newydd Wasafiri, Gwobr Cyfryngau Cymru, Gwobr Rising Stars Cymru, a Gwobr Cymru Greadigol.
Sefydlwyd Awduron wrth eu Gwaith yn 2016, i adeiladu talent ysgrifennu Cymru yn y ddwy iaith, a chafodd ei oedi yn ystod pandemig Covid-19. Bydd 2024 yn nodi ei chweched flwyddyn.
Meddai Prif Swyddog Gweithredol Gŵyl y Gelli, Julie Finch:
“Mae Hay Festival Global yn cynnull awduron, darllenwyr ac – yn hollbwysig – cyfleoedd creadigol. Fel un o sefydliadau diwylliannol mwyaf Cymru, rydym yn falch o’n gwreiddiau Cymreig, ac yn cymryd ein cyfrifoldeb mewn perthynas â thirlun diwylliannol Cymru o ddifrif. Mae’n bleser gennym arddangos ein rhaglen Awduron yn y Gwaith ar gyfer 2024. Bydd rhaglen weithgareddau eleni yn bodloni’r heriau y mae pobl greadigol newydd yng Nghymru yn eu hwynebu heddiw, ac yn diogelu a thyfu ein heffaith greadigol ar gyfer y dyfodol.”
Meddai Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru, Leusa Llewelyn:
“Llongyfarchiadau i’r deg awdur sydd wedi eu dewis i gymryd rhan yng nghyfle arbennig Awduron wrth eu Gwaith. Roedd yn fraint darllen cymaint o geisiadau safonol gan gymaint o awduron Cymreig, ac i gael ein cyflwyno i amryw o themâu a lleisiau newydd. Roedd yr egni creadigol o fewn y ceisiadau yn hynod, yn llawn uchelgais ac yn dangos awydd yr awduron i ddatblygu eu gyrfaoedd proffesiynol. Rydym yn edrych ymlaen i weld sut y bydd yr awduron yn datblygu yn dilyn rhaglen wych Awduron wrth eu Gwaith 2024.”
I ddarganfod rhagor am yr awduron, ewch draw i wefan Gŵyl y Gelli.