Dewislen
English
Cysylltwch

Awduron wrth Eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2025: Agor i Geisiadau

Cyhoeddwyd Mer 29 Ion 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Awduron wrth Eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2025: Agor i Geisiadau
Llun: Billie Charity // Gŵyl y Gelli
Mae Gŵyl y Gelli yn gwahodd ceisiadau newydd ar gyfer Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2025, eu cyfle datblygiad proffesiynol i awduron o Gymru, mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru, gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru.
Dyddiad cau: 2.00pm, Dydd Gwener 28 Chwefror 2025.

Bydd y cyfle datblygu proffesiynol hwn i awduron o Gymru yn digwydd yn ystod Gŵyl y Gelli (22 Mai – 1 Mehefin) o ddydd Gwener 23 Mai i ddydd Sul 1 Mehefin 2025. Bydd y rhaglen 10 diwrnod o hyd yn galluogi’r awduron llwyddiannus i fynychu dosbarthiadau meistr, gweithdai ac i rwydweithio gydag awduron, cyhoeddwyr, asiantaethau ac aelodau o’r wasg o Gymru, y DU a thu hwnt.

Rydym yn gwahodd ceisiadau gan awduron ffuglen (pob genre), awduron ffeithiol-greadigol, a beirdd yn y Gymraeg a’r Saesneg. Nid yw’r rhaglen hon wedi ei hanelu at ddramodwyr nag awduron sgript sgrîn. Bydd awduron cymwys yn awduron o Gymru (wedi eu geni, eu haddysgu neu yn byw ar hyn o bryd yng Nghymru) sy’n dangos ymrwymiad clir tuag at ddatblygiad proffesiynol gan ddangos tystiolaeth o gyhoeddi, waeth pa mor fychan, mewn print neu ar-lein. Gall cyfranogwyr fod yn awduron sydd ar gychwyn eu gyrfaoedd llenyddol, yn awduron mwy profiadol sydd angen – neu a fyddai’n croesawu – cymorth i gyrraedd cam nesaf eu gyrfa, neu yn awduron sy’n credu eu bod wedi cyflawni popeth o fewn eu gallu o fewn iaith neu genre penodol a sydd yn awyddus i archwilio iaith neu genre wahanol.

Nid oes cyfyngiad oedran, tu hwnt i’r lleiafswm oed o 18, ac y mae 10 lle ar gael.

Bydd yr ymgynulliad unigryw hwn o’r diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi yng Ngŵyl y Gelli yn galluogi’r awduron llwyddiannus i fagu hyder, sgiliau ac i ffurfio rhwydweithiau gyda’u cyfoedion, gan adael y rhaglen wedi eu hysbrydoli i greu gweithiau newydd ac i gyflawni eu hamcanion personol.

Bydd rhaglen Awduron wrth eu Gwaith yn cael ei darparu yn rhad ac am ddim ar gyfer y 10 awdur llwyddiannus. Bydd Ysgoloriaeth Awduron wrth eu Gwaith yn talu am lety, teithio o fewn Cymru neu’r DU, a chynhaliaeth yn ystod yr ŵyl. Mae safle’r Ŵyl yn gwbl hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, ac mae dolenni anwythol (induction loops) ar gael ym mhob lleoliad perfformio. Caniateir cŵn tywys. Gŵyl y Gelli fydd yn trefnu’r llety, ond bydd angen i gyfranogwyr ofalu am eu trefniadau teithio eu hunain; a bydd y costau hyn yn cael eu had-dalu.

I ddysgu mwy am y broses ymgeisio a dethol, ac i gael trosolwg manylach o’r rhaglen, ewch draw i wefan Gŵyl y Gelli.