Dewislen
English
Cysylltwch

Bàrd, File, Bardd: Cydweithrediad barddoniaeth tair gwlad yn dathlu cysylltiadau diwylliannol Cymru, Iwerddon a’r Alban

Cyhoeddwyd Gwe 18 Medi 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Bàrd, File, Bardd: Cydweithrediad barddoniaeth tair gwlad yn dathlu cysylltiadau diwylliannol Cymru, Iwerddon a’r Alban
“A haws y saif stôl ar deircoes nag un””

Mae’r tri sefydliad llenyddol a chelfyddydol, Cultúrlann McAdam Ó Fiaich, Scottish Poetry Library a Llenyddiaeth Cymru yn lansio cywaith barddoniaeth digidol newydd Bàrd, File, Bardd. Mae’r prosiect yn dod â beirdd o’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon ynghyd i rannu ac archwilio cysylltiadau a dynameg ieithoedd Gaeleg yr Alban, Cymraeg a Gwyddeleg. Mae’r teitl yn cyfuno’r gair am ‘bardd’ yn y tair iaith dan sylw.

Penllanw’r cydweithrediad yw casgliad o naw cerdd fideo newydd sy’n archwilio themâu cyfoes a ysgrifennwyd ac a berfformiwyd gan dri bardd, un o bob gwlad.

Y beirdd sy’n cydweithio ar y prosiect yw Bardd Cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn, Awdur Preswyl Prifysgol Dinas Dulyn a Llysgennad Áras na Scríbhneoirí Ciara Ní É, a’r awdur, darlledwr a darlithydd ym Mhrifysgol St Andrews Pàdraig Mac Aoidh. Yn ystod eu cydweithrediad, mae’r tri bardd wedi archwilio gwahanol safbwyntiau ar ieithoedd Gaeleg yr Alban a Gwyddeleg a Chymraeg. Mae eu gwaith hefyd yn archwilio hunaniaethau a sut mae’r ieithoedd hyn yn parhau i esblygu ac addasu i’r byd modern.

Cyn y lansiad, cynhaliodd y beirdd gyfres o weithdai digidol, dan arweiniad y ganolfan iaith a diwylliant ym Melffast, Cultúrlann McAdam Ó Fiaich. Sbardun y gweithdai oedd y cysyniad o “famiaith”, ac yr hyn mae yn ei olygu i bobl o wahanol gymunedau a phrofiadau ieithyddol, yn enwedig o fewn cyd-destun dwyieithog. Comisiynwyd y beirdd i ysgrifennu tair cerdd yr un yn dilyn y gweithdai, ac maent wedi gweithio gyda’r cyfarwyddwr amlgyfrwng arobryn Ian Rowlands, y golygydd fideo a chyfansoddwr Jason Lye-Phillips a’r animeiddiwr Pól Maguire i greu’r fideos.

Bydd y cerddi fideo – tair yn Wyddeleg, tair yng Ngaeleg yr Alban a thair yn Gymraeg – yn cael eu dangos am y tro cyntaf gydag isdeitlau Saesneg ar sianeli YouTube a Facebook Cultúrlann McAdam Ó Fiaich nos Wener 18 Medi am 8.30pm fel rhan o Oíche Chultúr (Noson Ddiwylliannol flynyddol).

O 1 Hydref, sef Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol, bydd pob un o’r naw cerdd yn cael eu rhyddhau’n unigol gyda dewis o isdeitlau Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, Cymraeg, Sgoteg a Saesneg.

Datblygwyd y prosiect yn wreiddiol fel sioe fyw wedi’i ysbrydoli gan Flwyddyn Ieithoedd Cynhenid UNESCO y llynedd. Y bwriad oedd teithio sioe i leoliadau a gwyliau yn y gwahanol wledydd, ond datblygodd ar ffurf digidol oherwydd pandemig Covid 19.

Ariennir Bàrd, File, Bardd gan Cyngor Celfyddydau Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, y Loteri Cenedlaethol a Scottish Poetry Library. Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Cultúrlann McAdam Ó Fiaich ar y cyd â Llenyddiaeth Cymru a Scottish Poetry Library, ac mewn cydweithrediad ag Yr Egin a Poetry Ireland.

Yn ôl Brónagh Fusco, Cultúrlann McAdam Ó Fiaich:

“Fel Celtiaid, nid yn unig mae’n hyfryd edrych ar ein mamiaith ein hunain, ei phwysigrwydd a’r hyn y mae’n ei olygu i ni trwy gyfrwng barddoniaeth, ond mamieithoedd ein cefndryd o Gymru a’r Alban. Nawr yw’r amser ar gyfer sgyrsiau pellach cyd-drefnedig ymysg rhanddeiliaid a chymunedau ac edrychwn ymlaen at eu parhad. Rydym yn awyddus i chwarae ein rhan.”

Dywedodd Asif Khan, Scottish Poetry Library:

“Iaith yw sail ein treftadaeth anghyffyrddadwy. Defnyddir iaith ac ymadroddion llafar sy’n perthyn i draddodiad i drosglwyddo gwybodaeth, gwerthoedd diwylliannol a chymdeithasol, a chof ar y cyd. Mae ieithoedd lleiafrifol fel seiffrau ar gyfer cof ar y cyd yn destun ymosodiad cynyddol wrth i’r gwerthoedd a rennir sy’n sail iddynt gael eu rheibio am gymhellion gwleidyddol i a dieithrio. Dyna pam ei bod yn bwysig bod ieithoedd lleiafrifol brodorol ynysoedd Prydain yn cael eu meithrin ac yn cael llwyfannau newydd ar gyfer rhannu gweithgaredd creadigol. ”

Yn ôl Lleucu Siencyn, Llenyddiaeth Cymru:

“Ymhlith yr heriau byd-eang sy’n ein wynebu ar hyn o bryd, mae’n braf cyd-greu gyda chyfeillion o’r Alban ac Iwerddon gan ddod ag amrywiaeth y lleisiau creadigol at ei gilydd i greu ddathliad unedig dros obaith.”