Dewislen
English
Cysylltwch

Bardd Cenedlaethol Cymru yn nodi 75 mlynedd ers sefydlu’r GIG

Cyhoeddwyd Maw 4 Gor 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Bardd Cenedlaethol Cymru yn nodi 75 mlynedd ers sefydlu’r GIG
Mae Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru wedi ysgrifennu cerdd i nodi 75 mlynedd ers sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Llenyddiaeth Cymru a gomisiynodd y gerdd, ‘The Unsung’, a’i chyfieithiad i’r Gymraeg gan Grug Muse. 

Bydd Hanan Issa a Grug Muse yn perfformio’r gerdd yn y Gwasanaeth Cenedlaethol o Ddiolchgarwch yn Eglwys yr Atgyfodiad yn Nhrelái, Caerdydd ddydd Mawrth 4 Gorffennaf. Mae hwn yn un o nifer o weithgareddau sy’n cael eu cynnal i ddathlu cyfoeth talent ac amrywiaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. 

Bydd y pâr hefyd yn perfformio’r gerdd yn y Senedd ddydd Mercher 5 Gorffennaf mewn digwyddiad a drefnwyd gan Gonffederasiwn GIG Cymru. 

Mae Bardd Cenedlaethol Cymru yn mynd â barddoniaeth i gynulleidfaoedd newydd ac yn annog eraill i ddefnyddio eu llais creadigol i ysbrydoli newid cadarnhaol. Maen nhw’n llysgennad dros bobl Cymru, yn eiriol dros yr hawl i fod yn greadigol ac yn lledaenu’r neges bod llenyddiaeth yn perthyn i bawb. Un rhan annatod o’r rôl yw ysgrifennu comisiynau barddoniaeth; Llenyddiaeth Cymru sy’n rheoli’r prosiect fydd wedi comisiynu rhai o’r rhain. Mae ‘The Unsung’ yn un comisiwn o’r fath. 

I ymchwilio ar gyfer y gerdd hon, gofynnodd Hanan am brofiadau gweithwyr y GIG sy’n arwyr di-glod, gan gynnwys staff labordy patholeg, staff mewn practis meddyg teulu ac ymarferwyr iechyd meddwl. 

 

Y Di-glod

 

Wna i ddim clapio i chi – yr anghofiedig, llyffeitheiriog, di-glod.

Yn darnio’r stori ynghyd o’r olwg ar eu hwyneb, y gwaed.

Eiliadau mor enbyd, mor boenus.

‘Ro’n i wastad eisiau helpu pobl’ yn atseinio heibio goleuadau crynedig

a choffi oer wrth i chi dorchi llewys gan wybod

fod mam, brawd, neu gymydog rhywle ’n aros.

 

Alla i ddim clapio i chi – fforddolion. Yn pwytho gobaith mewn sifftiau

o du ôl i len, tu ôl i gwarel wydr.

Tafellau o groen ar sleidiau, eu hatebion lliw llachar

ynghudd mewn cymylau a smotiau inc. Ac eto rydych chi’n

mordwyo’ch ffordd at berson. Yn camu mewn i gartrefi llawn ewyn

ofn, cyn gadael rhywbeth siâp coflaid gynnes yn eich holau.

 

Feiddia i ddim clapio i chi – siamaniaid yn tywynnu mewn cysgodion.

Yn chwilio am belydrau gobaith, yn dal plasma at y golau.

Sut ydych chi’n consurio gwenau a llwyddiannau

heb gwsg na sicrwydd? Meithrin ffydd o dryblith chwilfriw.

Cleifion heb syniad am eich gwasanaeth,

yn geirio ‘troponin’ neu ‘lliniarol’ fel gweddi.

 

Cymerwch y pin, fy mhapur, y geiriau hyn i gyd.

Ond alla i ddim addo cymeradwyaeth i chi,

am fod clapio’n awgrymu fod y gwaith ar ben.

 

Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru

cyfieithiad Cymraeg gan Grug Muse

 

Enwyd Hanan Issa yn Fardd Cenedlaethol Cymru ym mis Gorffennaf 2022. Yn ystod ei chyfnod yn y swydd, mae am i bobl gydnabod Cymru fel gwlad sy’n llawn creadigrwydd: gwlad beirdd a chantorion sydd â chymaint i’w gynnig i’r celfyddydau. 

Darganfyddwch fwy ar dudalen Bardd Cenedlaethol Cymru ar wefan Llenyddiaeth Cymru.