Dewislen
English
Cysylltwch

Bardd Plant Cymru yn dathlu’r Gymraeg yn un o wyliau llenyddol mwya’r byd

Cyhoeddwyd Llu 29 Ion 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Bardd Plant Cymru yn dathlu’r Gymraeg yn un o wyliau llenyddol mwya’r byd
Gŵyl Lenyddiaeth Kolkata yw un o wyliau llenyddiaeth mwyaf y byd gyda tua 2.1 miliwn o fynychwyr ac mae wedi’i lleoli yng ngogledd-ddwyrain India. Fel rhan o gynllun Cymru yn India Llywodraeth Cymru, bydd dathliadau blwyddyn gyfan yn dod â’r ddwy wlad ynghyd trwy gyfres o ddigwyddiadau, straeon a gweithgareddau ac yn dathlu’r ddau ddiwylliant.

I gychwyn y flwyddyn, arweiniodd Bardd Plant Cymru, Nia Morais, drafodaeth banel yng Ngŵyl Lenyddiaeth Kolkata, cynhaliodd sesiynau llenyddiaeth plant a thrafodaethau ar yr iaith Gymraeg.

Prif amcan Nia fel Bardd Plant Cymru yw helpu i greu cyfleoedd i blant ac unigolion ifanc fynegi eu barn ar bynciau sy’n bwysig iddynt, ac sy’n brin mewn llenyddiaeth Gymraeg. Mae Nia yn credu mewn dangos bod y Gymraeg yn gynhwysol i bawb, gan hybu diwylliant o bositifrwydd a pharch.

Dywedodd Nia:

“Un o fy mhrif amcanion fel Bardd Plant Cymru yw helpu pobl ifanc Cymru i fanteisio ar eu creadigrwydd a chael hwyl yn chwarae gyda geiriau yn y Gymraeg. Dwi am brofi nid yn unig y gall unrhyw un fod yn greadigol, ond hefyd y gellir defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell dosbarth.

“Rydym yn genedl sydd â threftadaeth ddiwylliannol gref, a hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol sy’n esblygu bob dydd: felly, gall defnyddio’r Gymraeg i greu helpu plant Cymru i freuddwydio am ddyfodol teg, gwyrdd a charedig i’n gwlad.”

 

Dywedodd Mitch Theaker, Diplomydd Cyntaf Cymru i India a Phennaeth India ar gyfer Llywodraeth Cymru:

“Mae Cymru yn India 2024 yn ymwneud ag arddangos y gorau o’n gwlad a chryfhau’r berthynas rhwng dwy wlad o ddiwylliant ac arloesedd. Mae’r ŵyl yn llwyfan hynod i arddangos ein hiaith a’n hunaniaeth unigryw o flaen 2.1 miliwn o bobl. Mae’r DU wedi’i chreu o wledydd gwahanol, pob un yn haeddiannol falch o’u hiaith, hanes, hunaniaeth, a diwylliant.

“Mae’r digwyddiad hwn yn nodi pennod arall yn y cyfnewidiadau ieithyddol a diwylliannol cyfoethog rhwng Cymru ac India. Mae ein hymdrechion i ddathlu a chryfhau ein hieithoedd unigryw ar y cyd, wedi datgelu dyfnder ein cysylltiadau. Wrth i ni symud drwy’r flwyddyn, edrychwn ymlaen at amlygu’r cysylltiadau hyn a rennir ymhellach, a hynny yn ysbryd parch a dysg.”

 

Dywedodd Nicola Morgan o Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:

“Trwy gydol 2024, mae Blwyddyn Cymru ac India yn cynnig cyfle newydd i ddathlu a dyfnhau’r cysylltiadau creadigol hirsefydlog rhwng y ddwy wlad. Wrth i Ddegawd Rhyngwladol Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig gyrraedd ei thrydedd blwyddyn, mae’n arbennig o gyffrous i Nia, yn ei rôl fel Bardd Plant Cymru, gael ei gwahodd i Ŵyl Lenyddiaeth Kolkata.

Trwy ei chydweithrediad â beirdd Bangla a gweithdai sy’n rhannu straeon a hunaniaeth amrywiol Cymru drwy’r Gymraeg, mae hi wedi ffurfio cysylltiadau newydd â’r torfeydd o gynulleidfaoedd ifanc sy’n byw eu bywydau bob dydd trwy ieithoedd lluosog. Mae’r celfyddydau’n cynnig ffordd bwysig o wrando ar ieithoedd a diwylliannau eraill yn ogystal ag arf pwerus i rannu profiadau a hunaniaethau gwahanol.”

I dderbyn y newyddion diweddaraf am Gymru yn India, dilynwch @WalesInIndia ar X (Twitter.) Dysgwch ragor am brosiect Bardd Plant Cymru.