Dewislen
English
Cysylltwch

Blog: Bardd Plant Cymru yn adlewyrchu ar y prosiect Darn Wrth Ddarn

Cyhoeddwyd Mer 12 Ebr 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Blog: Bardd Plant Cymru yn adlewyrchu ar y prosiect Darn Wrth Ddarn
Mae Llenyddiaeth Cymru’n falch o rannu cerdd a fideo a grëwyd gan Fardd Plant Cymru Casi Wyn, yr artist Efa Blosse-Mason, a disgyblion Ysgol Gwent is y Coed, fel rhan o brosiect Darn wrth Ddarn.

Mae Darn wrth Darn yn brosiect partneriaeth gyda Mind Casnewydd a Maindee Youth wedi’i gyllido gan Comic Relief. Pwrpas y prosiect yw cefnogi teuluoedd a phobl ifanc gyda phroblemau iechyd meddwl, yn enwedig y rheiny o gefndir incwm isel, pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) neu sydd yn LHDTC+. Mae’r prosiect yn gweld awduron ac artistiaid yn cydweithio i greu cerddi, ffilmiau a phrosiectau cerddoriaeth i gefnogi’r teuluoedd hynny. Ei nod creadigol yw mynd i’r afael â thrawma a lleihau effaith iechyd meddwl gwael trwy rannu profiadau trwy weithgareddau creadigol fel barddoniaeth gair llafar, straeon digidol, drama, darlunio ac ysgrifennu creadigol.

Fel rhan o’r prosiect, bu Bardd Plant Cymru, Casi Wyn, a’r artist Efa Blosse-Mason yn gweithio gyda 12 o ddisgyblion yn Ysgol Gwent is Coed ym mis Mawrth 2023 i greu cerdd, Dros Mawr Coch, a’i ddatblygu i ffilm wedi ei animeiddio. Isod gwelir ffrwyth llafur y gweithdai, yn ogystal â blog gan Casi am ei phrofiad yn gweithio ar y prosiect.

 

Drws Mawr Coch

Drws mawr coch
yw’r porth i’n dychymyg,
ac ar bapur adennydd
awn ninnau ar daith,
dianc!
drwy goridorau
ein posibiliadau.

Tu ôl i’r drws?
Creaduriaid caredig,
eraill yn gas,
bwystfilod yn gwibio,
dynion hir-fain
yn hercio heibio.

Ymlaen, ymlaen i
losgfynydd o goch,
a’r afon boethaf
o dannau’n chwyrlio,
yn ffrio a fflamio.
Kloe ar ras
yn ei bagiau Channel
a’i hewinedd yn batrwm
swel, swel, swel.

Ymlaen, ymlaen
sŵn roced fawr ffyrnig
yn saethu
i fannau pellaf y gofod.
Steve y robot
sy’n dweud ‘helo’,
y gofodwr coll
sydd, Sh! ar ffo.

Ymlaen, ymlaen
i’r ystafell olaf.
Nodau rhyddhad,
wrth glywed gitar
yn swyno’r glesni,
hofran ar gwmwl,
arnofio’n y nen,
amser cau’r drysau
cyn i’r dydd ddod i ben.

 

 

Treuliais wythnosau wrth fy modd draw yn Ysgol Gwent Is-Coed dros y ddeu fis diwethaf. Ar ôl derbyn gwahoddiad gan Llenyddiaeth Cymru a Mind Newport i ddatblygu gwaith gwreiddiol gyda phlant ifanc Casnewydd, mi holais i’r artist a’r animeiddwraig o Gaerdydd, Efa Blosse Mason pe tasa ganddi awydd ymuno hefo fi ar y daith.

Roedd y gwahoddiad yn gwbl agored – gyda phwyslais ar gynnig profiadau llesol ac artistig i bobl ifanc fedru mynegi ei hunain.

Mae grymuso pobl ifanc yn rywbeth sy’n wirioneddol bwysig imi ar lefel bersonol ond hefyd yn rhan o ngwaith fel Bardd Plant Cymru. Mae pob plentyn yn unigryw, a’u harbennigedd a’u anghenion ei hunain. Mae pob plentyn yn werthfawr hefyd – neb yn well na’i gilydd – ond yn dangos sgiliau neu rinweddau sy’n amrwyio. Mi gyfrannodd pob un yn ei ffordd wahanol ei hun gan gyfoethogi’r broses o greu ffilm fydda’n yn herio ein profiad ni o fynd i’r ysgol.

O ech-doriad llosgfynydd tanllyd Kloe i asur di-ben draw y gitarydd Ffrengig a’i nodau per, tu ol i pob drws mae yna fydoedd yn troelli a dadlennu. Mae pob un byd yn cynnig ei ddirgelwch ei hun ac yn brawf bod dweud stori yn fodd o ddatgelu harddwch yr isymwybod.

‘Drws Mawr Coch’ yw teitl y ffilm – y porth i’n dychmygu. Dyma’r drws sy’n ein harwain ni y gynulleidfa i ddilyn teithiau’r cymeriadau cynnes, creulon, herciog yn eu holl ysblander. Mwynhewch enfysoedd a direidi plant arbennig Ysgol Gwent Is Coed.

Casi Wyn

Bardd Plant Cymru 2023-25

Bardd Plant Cymru, Blog