Dewislen
English
Cysylltwch

Darn wrth Ddarn

Mae Darn wrth Ddarn yn brosiect partneriaeth gyda Mind Casnewydd a Community Youth wedi’i gyllido gan Comic Relief. Pwrpas y prosiect yw cefnogi teuluoedd a phobl ifanc gyda phroblemau iechyd meddwl, yn enwedig y rheiny o gefndir incwm isel, pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) neu sydd yn LHDTC+. Trwy’r prosiect mae awduron ac artistiaid yn dod at ei gilydd i greu cerddi, ffilmiau a phrosiectau cerddorol i gefnogi teuluoedd.

Mae’n cyd-fynd â dau o’n prif flaenoriaethau; Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb ac Iechyd a Llesiant. Y prif nod yw gwell cynrychioli amrywiaeth Cymru’n well yn ei llenyddiaeth. Amcan creadigol Darn wrth Ddarn yw i fynd i’r afael â thrawma a lleihau effaith iechyd meddwl sâl wrth rannu profiadau trwy weithgareddau creadigol fel barddoniaeth ar lafar, straeon digidol, drama, darlunio ac ysgrifennu creadigol.

Mae’r artistiaid sy’n cymryd rhan yn cynnwys Connor Allen, Sarah Bawler, Georgina Harris, Samantha Jones, Andy O’Rourke, clare e. potter, Bill Taylor-Beales, Uschi Turoczy, Serena Lewis, William Tremlett, Casi Wyn, Efa Blosse-Mason, Maddie Jones a Duke Al Durham. Mae Holly Clark, Leanne Evans, Hannah Lloyd, Amy Moody, a Yasmin Williams yn artistiaid cysgodol. Dewiswyd wedi galwad agored ym mis Medi 2020.

Derbyniodd Comic Relief 396 o geisiadau ledled y byd pan agoron nhw’r cynllun cyllido yma yn 2010. Roedd Darn wrth Ddarn yn un o naw prosiect yn y DU a dderbyniodd gyllid, a’r unig un yng Nghymru