Dewislen
English
Cysylltwch

Brechdan Gerddi Gŵyl Ffor Arall

Cyhoeddwyd Llu 20 Gor 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Brechdan Gerddi Gŵyl Ffor Arall
[Ch - Dd] Ciara, Pàdraig ac Ifor

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o fod yn rhan o arlwy Gŵyl Ffor Arall eleni. Bydd Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, yn sgwrsio gyda’r beirdd Ciara Ní É o Iwerddon a Pàdraig MacAoidh o’r Alban.

Y bardd a’r darlledwr Ciara Ní É yw’r cwmni cyntaf, gan gyfuno perfformiadau a sgwrs ddifyr am ei chefndir a’i hysgogiad i ddilyn ei thrywydd a thorri tir newydd yn y Wyddeleg.

Mae Ciara Ní É yn un o dalentau ifanc mwyaf cyffrous llenyddiaeth Wyddeleg cyfoes; mae ei cherddi yn herio ac yn chwa ddinesig, ffeministaidd a chwareus. Ciara yw Awdur Preswyl Prifysgol Dinas Dulyn 2020 ac mae’n llysgennad i’r Irish Writers Centre. Hi hefyd yw sylfaenydd REIC, noson meic agored amlieithog sy’n cael ei gynnal yn fisol yn Nulyn ac sy’n cynnwys barddoniaeth, cerddoriaeth, chwedleua a rap. Bardd berfformiwr yw Ciara ac mae ei cherddi fideo wedi denu llawer o sylw gan roi platfform i farddoniaeth Wyddeleg yn rhyngwladol.

Yr wythnos ganlynol, bydd Ifor yn sgwrsio gyda Pàdraig Macaoidh. Daw Pàdraig MacAoidh o Ynys Lewis yn Ynysoedd Heledd, ac mae’n siaradwr Gaeleg rhugl. Mae’n academydd, yn awdur ac yn ddarlledwr. Caiff ei waith ei ddylanwadu gan dreftadaeth ieithyddol eang bro ei febyd, ac o’r herwydd mae’n ysgrifennu mewn Gaeleg Yr Alban yn ogystal â’r Saesneg. Gu Leòr / Galore oedd ei gasgliad cyntaf.

Mae manylion y ddwy sesiwn, a sut i’w gwylio, ar gael isod:

Brechdan Gerddi: Ifor ap Glyn yn holi Ciara Ní É

Nos Fawrth, 21 Gorffennaf 2020

7.00 pm

Sianel AM Gŵyl Arall: https://www.amam.cymru/gwylarall

Brechdan Gerddi: Ifor ap Glyn yn holi Pàdraig MacAoidh

Nos Fawrth, 28 Gorffennaf 2020

7.00 pm

Sianel AM Gŵyl Arall: https://www.amam.cymru/gwylarall

Sgyrsiau drwy gyfrwng y Saesneg yw’r rhain, gyda darlleniadau mewn Gwyddeleg a Gaeleg. Bydd cyfieithiad Saesneg yn ymddangos ar y sgrin.

Mae Ifor, Ciara a Pàdraig yn cydweithio ar brosiect Mamiaith, sy’n archwilio hunaniaethau a sut mae ieithoedd yn parhau i esblygu. Caiff y prosiect ei noddi gan Culturlann Belffast, y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, Scottish Poetry Library a Llenyddiaeth Cymru. Bydd casgliad o gerddi fideo yn deillio o’r prosiect.

Am ragor o wybodaeth am arlwy Gŵyl Ffor Arall eleni, ewch i: https://gwylarall.com/