Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth: Dathlu Cerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru mewn gŵyl ryngwladol

Gellir darllen ‘Beauty and Blood’ ynghyd â’r cyfieithiadau ar wefan Transpoesie: http://www.transpoesie.eu/poems/941
Thema Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth 2023 yw Lloches, ac fel bardd Cymraeg-Iracaidd, mae Hanan Issa yn cymharu ecsbloetio llochesi diwylliannol yn Irac a Chymru yn y gerdd hon. Mae corsydd Hammar yn Nasiriyah, Irac a Chapel Celyn yn llochesi diwylliannol arwyddocaol sydd wedi cael eu dinistrio.
Harddwch a Gwaed
Ardal o gorstir yn Nasiriyah, Iraq yw’r Hammar. Sychodd Saddam y tiroedd hyn er mwyn rheoli Arabiaid y Corsydd.
Mae Capel Celyn yn ardal yng Ngogledd Cymru a foddwyd ym 1965, er mwyn darparu rhagor o ddŵr i ddinas Lerpwl…
Dychmyga wagio holl gorsydd Hammar
i foddi Capel Celyn: cyfnewidfa ddagrau,
hel pobl o le i le fel darnau gwyddbwyll.
Sbecia rhwng siffrwd meddal cudynnau’r brwyn
a gwylia ddafnau o fywyd yn llithro heibio.
Wrth i’r dŵr godi dros Gymreictod y cwm
clyw’r boen yn ffarwél y menywod
sy’n cyfrin-datŵio straeon i’w crwyn ei gilydd.
Yn yr harddwch a’r gwaed y mae’r hanes, o hyd.
Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru
Cyfieithiad Cymraeg gan Iestyn Tyne
Ymunodd Hanan â beirdd o bob rhan o Ewrop yn yr ŵyl ym Mrwsel i ddathlu amrywiaeth. Mae gŵyl lenyddol Transpoesie yn cael ei chynnal bob blwyddyn i ddathlu Diwrnod swyddogol Ieithoedd Ewrop. Teithiodd Hanan Issa i Frwsel gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llywodraeth Cymru
Mae Hanan wedi mwynhau mis Medi prysur, bu hefyd yn ymweld â Gŵyl Lenyddiaeth Querétaro, Mecsico fel rhan o’i Chymrodoriaeth Ryngwladol Gŵyl y Gelli yn gynharach y mis hwn.
Cyhoeddwyd ‘Beauty and Blood’ yn wreiddiol yn My Body Can House Two Hearts, Hanan Issa (Burning House)