Bwyd a Hwyl
Mae Bwyd a Hwyl yn rhaglen sy’n darparu gweithgareddau addysgol a phrydau iachus i blant yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae’n darparu brecwast a chinio o ansawdd da, sesiynau addysg bwyd a maeth, gweithgaredd corfforol a gweithgareddau cyfoethogi i blant sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig.
Gall ysgrifennu creadigol fod yn fuddiol i iechyd a lles plant, gan eu helpu i archwilio emosiynau a meddyliau trwy straeon a chymeriadau. Cafodd y plant amser gwerth chweil a chofiadwy yn chwarae gemau geiriau, ysgrifennu barddoniaeth, perfformio eu gwaith a dod i adnabod eu hawduron lleol.
Darparodd y gweithdai ymdeimlad o gyflawniad, gyda phob plentyn yn mynd â cherdd neu stori adref – wedi’i hysgrifennu’n unigol neu fel grŵp. Roedd y gweithdai hefyd yn annog y plant i ddarllen – ac i barhau i ysgrifennu – ar ôl cyfarfod ag awdur ‘go iawn’!
‘O fewn y 5 munud cyntaf cipiwyd sylw’r plant. Fe wnaethon nhw fwynhau cymryd rhan ac roedden nhw wrth eu bodd â’r sesiwn.’ – Ysgol Gynradd Litchard, Pen-y-bont ar Ogwr.
‘Roedd rhai o’r plant yn dod o Wlad Pwyl, draw yma ar leoliad haf. Roeddent wedi ymgolli yn y darlleniadau barddoniaeth ac er nad Saesneg oedd eu hiaith gyntaf, nid yn unig yr oeddent yn ysgrifennu barddoniaeth, ond roeddden nhw yn sefyll ar eu traed ac yn ei hadrodd ar y diwedd. Roedden nhw’n rhyfeddol.’ – Alex Wharton, Children’s Laureate Wales.
Yr ysgolion a gymrodd ran oedd:
Ysgol Cefn Meiriadog,Groesffordd Marli, Abergele, Sir Ddinbych.
Ysgol Penrhyn, New Broughton, Wrecsam.
Ysgol Gynradd Abercerdin, Evanstown, Pen-y-bont ar Ogwr.
Ysgol Gellifaelog, Merthyr Tydfil.
Ysgol Gynradd Gelliswick VCl, Hakin Hakin, Milford Haven.
Gofal Plantos Prysur Childcare, Old Road School, Llanelli.
Ysgol Gynradd Litchard, Pen-y-bont ar Ogwr.