Dewislen
English
Cysylltwch

Cefn Llwyfan: Rhaglen Gelfyddydol Ddigidol Eisteddfod yr Urdd

Cyhoeddwyd Iau 10 Medi 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cefn Llwyfan: Rhaglen Gelfyddydol Ddigidol Eisteddfod yr Urdd
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi lansio rhaglen ddigidol newydd, Cefn Llwyfan, ar gyfer pobl ifanc 14-25 oed a fydd yn cael ei chynnal rhwng Medi a Rhagfyr 2020.

Mae Cefn Llwyfan yn raglen gyffrous o sgyrsiau, gweithdai a digwyddiadau celfyddydol ar gyfer pobl ifanc 14-25 oed, sy’n rhoi cyfle iddynt holi cwestiynau a chael cyngor gan arbenigwyr yn eu maes. Bydd sgyrsiau am berfformio, creu, ac am wneud y celfyddydau yn fwy cynhwysol yng Nghymru, a bydd pob sesiwn am ddim i aelodau yr Urdd. Mae Llenyddiaeth Cymru’n hynod falch o fod yn bartner ar y rhaglen newydd gyffrous hwn, ac yn edrych mlaen i genfogi’r digwyddiadau llenyddol, ‘Hunangyhoeddi dy waith llenyddol’ a ‘Gweisg Cymru: Sut i gyhoeddi dy waith’.

Mae braslun o’r rhaglen llawn i’w weld isod, ac mae’r holl fanylion i’w gweld yma ar wefan yr Urdd.

Mis Medi

  • 22/09/2020 Hunangyhoeddi dy waith llenyddol
  • 23/09/2020 Anabledd yn y Celfyddydau
  • 24/09/2020 Sioe Gerdd: Sut i gyrraedd llwyfan y West End

Mis Hydref

  • 07/10/2020 Privilege Cafe a’r Urdd
  • 16/10/2020 Mynediad i Yrfa Canu Clasurol
  • 21/10/2020 Pitchio dy syniadau i S4C a Hansh

Mis Tachwedd

  • 11/11/2020 Y Celfyddydau LHDT+
  • 18/11/2020 Sut i ddilyn Gyrfa Ddawns yng Nghymru
  • 25/11/2020 Gwesig Cymru – Sut i gyhoeddi dy waith

Mis Rhagfyr

  • 02/12/2020 Y Celfyddydau mewn Ardaloedd Dosbarth Gweithiol
  • 08/12/2020 Dysgu Cymraeg: Sut i Gymryd Rhan yn y Celfyddydau
  • 10/12/2020 Paratoi at Glyweliad Mewn Coleg Perfformio