Dewislen
English
Cysylltwch

Cefnogaeth ariannol ar gael i ysgolion ar gyfer gweithdai ysgrifennu creadigol gan awduron o liw

Cyhoeddwyd Gwe 21 Hyd 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cefnogaeth ariannol ar gael i ysgolion ar gyfer gweithdai ysgrifennu creadigol gan awduron o liw
Credit: Tyrone Lewis @ProcessProductions
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, rydym yn helpu ysgolion i gynnal gweithdai ysgrifennu creadigol gan awduron o liw o Gymru. Rydym yn gwneud hyn trwy gynnig talu 50% o ffi’r awdur.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 13 Ionawr 2023

Y nod yw fod yr awduron sy’n cyflawni gweithdai Cymru Ni | Our Wales yn ysbrydoli dysgwyr i archwilio ein Cymru fodern mewn modd dychmygus, gan eu helpu i fod yn ‘[d]dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd’. Gall ysgolion wneud cais am nawdd gan Llenyddiaeth Cymru ar ôl trefnu gweithdy gydag awdur, a chadarnhau dyddiad ac amser gyda hwy. Gall y gweithdy fod ar unrhyw bwnc, ond mai rhaid iddynt gael eu rhedeg gan awduron o liw sy’n byw yng Nghymru neu sydd â chyswllt Cymreig cryf.

Bydd y profiadau addysgol hyn yn cynorthwyo ysgolion i gwrdd â’r argymhellion yn yr adroddiad “Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd” gan Yr Athro Charlotte Williams OBE.

Gan amlaf, bydd y gweithdai yn para oddeutu 2 awr, ac yn ddelfrydol fe’i cyflwynir i ddysgwyr Cyfnod Allweddol 2 neu Gyfnod Allweddol 3. Mae’r cynnig hwn ar gael am amser cyfyngedig, ac mae’n rhaid i’r gweithdai gael eu hamserlennu i ddigwydd cyn diwedd Mawrth 2023.

I ddarllen rhagor a darganfod sut I wneud cais am nawdd, ewch i dudalen brosiect Cymru Ni.

Rydym yn disgwyl y bydd galw mawr am y nawdd hwn. Archebwch eich gweithdai nawr!